Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 76(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(15 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd y 3 chwestiwn.

(0 muned)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.34

Gwnaeth Darren Millar ddatganiad i nodi 35 mlynedd ers diwedd rhyfel y Falklands.

Gwnaeth Nathan Gill ddatganiad ar ganser y coluddyn.

(60 munud)

5.

Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod – Y Bil Awtistiaeth (Cymru)

NDM6304 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6304 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

9

0

49

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

6.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6311

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Hefin David (Caerffili)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru

NDM6329 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.

Dogfennau ategol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymateb y BBC

Ymateb ITV (Saesneg yn unig)

Ymateb Ofcom

Ymateb S4C

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM6329 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM6328 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cymru yn y Byd – meithrin cysylltiadau rhyngwladol Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM6328 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cymru yn y Byd – meithrin cysylltiadau rhyngwladol Cymru.

Crynodeb o Bleidleisiau 14.06.17

Dogfennau ategol: