Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 71(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

Datganiad ar yr ymosodiad ym Manceinion

Dechreuodd yr eitem am 12.30

Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.

1.

Teyrngedau i’r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan

Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am gyfnod byr.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.34

Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, Arweinwyr y Pleidiau eraill ac Aelodau i wneud cyfraniadau. Yn dilyn hynny, galwodd y Llywydd ar Julie Morgan i siarad, cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.

Am 13.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 12 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.05

Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 - 9. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i Drwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

5.

GOHIRIWYD - Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Plant yn Gyntaf / Children First

6.

SYMUDWYD I 24 MAI - Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru

7.

SYMUDWYD I 24 MAI - Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

(60 munud)

8.

Dadl: Presgripsiynu Cymdeithasol

NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;


2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a


3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

 

Diffiniad y King’s Fund o bresgripsiynu cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru;

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl; a

4. Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Derbynwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.