Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 68(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5, 6 ac 8 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol
Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd
y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.18 Gofynnwyd y 6
chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i
wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân
yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli? Gofyn i Ysgrifennydd
y Cabinet dros Addysg Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth
yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol
Aberystwyth? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.40 I Ysgrifennydd
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae
Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch
torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger
Llanelli? I Ysgrifennydd
y Cabinet dros Addysg Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y
diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.59 Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad i ddathlu nyrsys yn agos at Ddiwrnod Rhyngwladol y
Nyrsys ar 12 Mai. Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad ar Gerddwyr Cymru a Thaith Gerdded Fawr Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6288 Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli
yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. 2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru. 3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona
arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.03 NDM6288 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd
Iwerddon. 2.
Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru. 3.
Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau
gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6303
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn
nwylo'r cyhoedd. 2.
Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau
iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn
Lloegr. 3.
Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn
amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny'n effeithio ar
feysydd polisi datganoledig, fel iechyd. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 2
a 3 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod y
cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr a dibyniaeth cleifion
Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr, fel gwasanaethau trawsryweddol,
gwasanaethau newyddenedigol aciwt a gwasanaethau iechyd meddwl i blant. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.43 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6303 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd
Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd. 2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a
thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr. 3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach
y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y
cytundebau hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6302
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod
angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau
â ffyniant economaidd y wlad. 2. Yn gresynu
at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn
ychwanegol a fyddai'n peryglu dyfodol economi Cymru. 3. Yn cydnabod
yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd
economaidd Cymru a'r DU yn cael ei beryglu. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: 1. Yn nodi y
byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n ymrwymo i
fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad. 2. Yn gresynu
at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod
cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn
diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth
£200 miliwn yn llai. 3. Yn
gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb,
gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20. 4. Yn nodi hanes
Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i 150,000 o
swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. 5. Yn
croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y
pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus. 6. Yn nodi
rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau wedi'u
prisio ar gyfer: a) Buddsoddiad
ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru; b) O leiaf
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran; c) Lleihad
bychan yn y dreth fusnes; d) Cronfa
gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau; e) Dyblu terfyn
cyfalaf gofal preswyl; f) 30 awr o
ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n
gweithio, 48 wythnos y flwyddyn. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod
yr angen i amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y
DU. 2. Yn credu na
ellir dibynnu ar Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU i amddiffyn Cymru, i
hyrwyddo buddiant cenedlaethol Cymru, na chyflawni potensial economaidd y
genedl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6302 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn
ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad. 2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif
Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai'n peryglu
dyfodol economi Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau
yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a'r DU yn cael ei
beryglu.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi y byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n
ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad. 2.
Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn
golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real
erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf
werth £200 miliwn yn llai. 3. Yn
gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb,
gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20. 4.
Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i
150,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. 5. Yn
croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y
pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus. 6.
Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau
wedi'u prisio ar gyfer: a)
Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru; b)
O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran; c)
Lleihad bychan yn y dreth fusnes; d)
Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau; e)
Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl; f)
30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n
gweithio, 48 wythnos y flwyddyn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6302 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi y byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n
ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad. 2.
Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn
golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real
erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf
werth £200 miliwn yn llai. 3. Yn
gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb,
gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20. 4.
Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i
150,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. 5. Yn
croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y
pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus. 6.
Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau
wedi'u prisio ar gyfer: a)
Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru; b)
O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran; c)
Lleihad bychan yn y dreth fusnes; d)
Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau; e)
Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl; f)
30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n
gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6300 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Ailadeiladu bywydau drwy chwaraeon cymunedol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 NDM6300 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ailadeiladu
bywydau drwy chwaraeon cymunedol |