Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 62(v7)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn
5 gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.22 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd
cwestiynau 4 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb i Erthygl 50 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.10 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69, Simon Thomas Dechreuodd yr eitem am
16.06 Bod y Cynulliad yn ystyried effaith tanio
Erthygl 50 ar Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd
y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 16.12
Russell George
(Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth
Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd
ac Is-gadeirydd y sefydliad? EAQ(5)0154(HWS) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am Wythnos
Chwyldro Ffasiwn 24-30 Ebrill. Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad ynghylch
“"Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd". Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad ynghylch y gwasanaeth
newydd sy’n ystyriol o ddementia a lawnswyd yn Tesco wythnos diwethaf yn
Abertawe. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol NDM6275 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.29 NDM6275 Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i
Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari NDM6276 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb,
'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.02 NDM6276 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio
Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6274 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o
ran ei gyflawni. 2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu
ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu
Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y
mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i
wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant. 3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng
Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu
eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol: a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau,
cyfeiriadau a chodau post; b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir
yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n
gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol. 4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor
Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal
dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus. 5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra
cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3
uchod. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Dileu popeth
ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu
bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar
ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r
defnydd o'r Gymraeg. Yn cydnabod
y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg
yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg. Yn cydnabod
bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau
a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid
iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i
ysgolion yn eu hawdurdodaeth. 'Deddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013' [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] 2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) [Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1. 4. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon
Cymraeg eu hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn. Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith
anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg. 6. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a
chymdeithasol dwyieithrwydd. 7. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor
Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol
cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o
dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau
dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.48 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6274 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni. 2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o
lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau
Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o
rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud
penderfyniadau addysgol ar ran eu plant. 3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion
dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys
ymgynghoriad lleol gwirioneddol: a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi
fel sylwadau ar wahân; ac c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r
mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol. 4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn
penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u
troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus. 5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir
ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Dileu popeth
ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu
bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar
ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r
defnydd o'r Gymraeg. Yn cydnabod
y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg
yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg. Yn cydnabod
bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau
a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid
iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i
ysgolion yn eu hawdurdodaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1.
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith
sy'n dechrau yn y proffesiwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar
ysgolion cyfrwng Cymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol
dwyieithrwydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. 7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng
y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn nodi bod Cynllun Strategol
Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y
penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i
gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf
2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau
priodol.
Gwrthodwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6274 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni. 2. Yn
croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn
ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o
gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. 3. Yn
cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth
Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg. 4. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg. 5. Yn
cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth
Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau
sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth. 6. Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol
dwyieithrwydd.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.40 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer (Ail-drefnwyd o 22 Mawrth) NDM6266
Dawn Bowden
(Merthyr Tydfil a Rhymni) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.46 NDM6266
Dawn
Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6273 Steffan
Lewis (Dwyrain De Cymru) Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru
arwain y ffordd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.01 NDM6273 Steffan
Lewis (Dwyrain De Cymru) Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |