Lleoliad: Y Siambr - Y_Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 42(v2)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiynau 1 a 4 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.03 Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.03 Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad ar bwysigrwydd parciau cenedlaethol yng Nghymru. Gwnaeth Hefin David ddatganiad yn talu teyrnged i’r diweddar Cyril Thomas, cyn ddirprwy brifathro Ysgol y Bechgyn Lewis, Pengam. Gwnaeth Bethan Jenkins ddatganiad yn talu teyrnged i Rebecca Evans o Shelter Cymru a fu farw yn ddiweddar mewn damwain car ar yr M4 ym Margam. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.” 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru. 'Datganiad: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf' ‘Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru)’ Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le: 3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3, yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny: "Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd,
yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi
ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o
barodrwydd ar gyfer y gaeaf." Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.” 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le: 3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny: "Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf." Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”. 3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd. 2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn. 'Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi: a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng; b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59 y cant o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2 y cant o blant dros eu pwysau neu'n ordew; ac c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i fynd i'r afael â gordewdra. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd. 2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi: a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng; b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng; b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.
2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;
b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;
c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;
d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac
e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle: 'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru; b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol; c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru; d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU;’ Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad. 2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus. 3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i: a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle; b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff; c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru; d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU. o dargedau symud net y DU.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 3. Yn credu: a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE. 5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael
ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 3. Yn credu: a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE. 5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru. 2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n hanfodol i ddyfodol economi Cymru. 3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy'n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn gweithredu yn y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM6199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano |