Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 32(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 12
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gwnaeth Angela Burns ddatganiad ar lansiad y grŵp
trawsbleidiol ar sepsis. Gwnaeth
Russell George ddatganiad ar 200 mlwyddiant geni John Roberts, Telynor Cymru. Gwnaeth
Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar lansiad cangen gogledd orllewin Cymru Beiciau
Gwaed Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18 NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o "Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron
y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2017-18 Llythyr ymateb
Comisiwn y Cynulliad at y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar
gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o
"Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y
Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o
dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG. 2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth
y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor
weithio yn y GIG yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru
yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a
hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar
bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Dileu pwynt 2. Gwelliant 3. Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo
synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r
bylchau sgiliau yn GIG Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.35 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae
gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG. 2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â
Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o
dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn galw ar Lywodraeth y
DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal
iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU
adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant
3. Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn
trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae
gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG. 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn
parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd
dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn
ar gyfer hwyluso hynny.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6146 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU
wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau
presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi
ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn
2014 yn unig. 2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged
50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb
Cenedlaethol y Glowyr. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn
Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a
cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd
MPS. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn cydnabod bod bodolaeth gwarant wedi galluogi'r
ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a
thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 NDM6146 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod
adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun
Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn
cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi
cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig. 2. Yn galw am
adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel
y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac
arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU
o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn
parhau i weithredu fel gwarantydd MPS. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6140 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i
gymdeithas Cymru gan bobl hŷn. 2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch,
yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu
hunain. 3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi
sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar
gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion
oes a'u cartrefi i gostau gofal. 4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd
ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau
a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a
gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a
hyrwyddo hawliau pobl hŷn; (b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i
ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu
bywydau; ac (c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n
ystyriol o ddementia. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn
cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor
o’u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl. Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o
ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal. Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu
Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru; b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o Fil; c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach i
wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu
cynllun dementia cenedlaethol newydd. [Os
derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Dileu is-bwynt 5a) a rhoi yn ei le: 'cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o
weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;' Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Dileu pwynt 5b) a rhoi yn ei le: 'cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau
bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio
gwasanaethau cyhoeddus;' Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis
ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.' Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac
awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd
eraill o ymelwad ariannol.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.30 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6140 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl
hŷn. 2.
Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag
annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 3.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy
roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal
preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a'u cartrefi i gostau
gofal. 4.
Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan
Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl
sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all
wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn; (b)
Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth
wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; ac (c)
Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n ystyriol o ddementia.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r
terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw
rhagor o’u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o
ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu
Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru; b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o
Fil; c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach
i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu
cynllun dementia cenedlaethol newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6140 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl
hŷn. 2.
Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag
annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 3.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf i
£50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o’u hasedau
pan fyddant yn symud i ofal preswyl. 4. Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y
DU o ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal. 5.
Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan
Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl
sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all
wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. 6.
Yn nodi: a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu
Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru; b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o
Fil; c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach
i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu
cynllun dementia cenedlaethol newydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6141 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu
dychwelyd i'r sector cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio
pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i
berchnogaeth gyhoeddus. 2. Yn nodi bod asesiadau blaenorol wedi dangos y
byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y cant pe bai'r tollau'n
cael eu diddymu 3. Yn galw am gynnal asesiad traffig gan Traffig Cymru
er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu tollau ar sail gallu'r system
drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth 4. Yn credu y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod
yn flaenoriaeth os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy
gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill
ledled Cymru, [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd
Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu
tollau sy'n daladwy ar y croesfannau. Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ychwanegu pwyntiau 1 a 2 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny: 1. Yn nodi’r manteision y byddai diddymu tollau ar
bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru. 2. Yn credu nad oes achos dros barhau i godi tollau ar
bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben
gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a busnesau Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.28 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6141 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi diddymu
tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn galw ar
lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy
bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. 2. Yn nodi bod asesiadau
blaenorol wedi dangos y byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y
cant pe bai'r tollau'n cael eu diddymu 3. Yn galw am gynnal
asesiad traffig gan Traffig Cymru er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu
tollau ar sail gallu'r system drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd
mewn trafnidiaeth 4. Yn credu y dylai
defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn flaenoriaeth os gellir cadarnhau dyfodol
hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau
trafnidiaeth eraill ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn galw am ddatganoli'r
cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth
gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu pwyntiau 1 a 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: 1. Yn nodi’r manteision
y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru. 2. Yn credu nad oes
achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a
chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a
busnesau Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6141 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r manteision
y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru. 2. Yn credu nad oes
achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a
chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a
busnesau Cymru. 3. Yn cefnogi diddymu
tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.16 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6142 Hefin David (Caerffili) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.25 NDM6142 Hefin David (Caerffili) Gwerth Busnesau
Bach a Chanolig i Economi Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - gohiriwyd o 9 Tachwedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.45 NDM6133 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol
Feddygol Caerdydd |