Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 24(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 – 9 ac 11 - 15. Trosglwyddwyd
cwestiwn 2 i’w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a’r Seilwaith. Ni
ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM(6089) Lee Waters (Llanelli) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol. 2. Yn nodi mai
dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a
gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd. 3. Yn cydnabod
potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau
corfforol ymysg pob grŵp oedran. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a
fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd
da. 'Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013' Cefnogir gan David
Melding (Canol De Cymru) Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y
cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM 6089 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol. 2.
Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau
corfforol a gaiff ei argymhell sydd ei angen arnynt bob dydd. 3.
Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau
gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y
llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol
o gael defnydd da.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 15.56 Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth
yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri
66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd? |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6115
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): 2. Yn credu y
dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac
y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) parhau i
fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn
gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y
gwaith; a b) sicrhau bod
yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion
eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar. [Os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn
is-bwynt 3a, dileu 'a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu
cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith' a
rhoi yn ei le: 'yn
y gweithle a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau cefnogaeth i bobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6115 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu
sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar
gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. 2.
Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion
yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob
disgybl. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth
er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn
y gwaith; a b)
sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella
eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6115 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu
sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar
gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. 2.
Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion
yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob
disgybl. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6114 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer
awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru)
yn ystod tymor y Pumed Cynulliad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y
cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6114 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed
Cynulliad.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.14 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6116
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.17 NDM6116 Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ymuno
â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad' - rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn
y cyfnod ar ôl gadael yr UE. |