Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 2(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30.

Yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai 2016, parhaodd y Llywydd gyda phroses enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.

Gofynnodd y Llywydd am gadarnhad bod enwau Carwyn Jones a Leanne Wood yn parhau.

Tynnodd Rhun ap Iorwerth enwebiad Leanne Wood yn ôl.

 

Pwynt o Drefn

Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch tynnu enwebiad Leanne Wood fel Prif Weinidog yn ôl gan ddyfynnu Rheol Sefydlog 8.3 bod yn rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw'r gofrestr pe byddai'r pleidleisiau'n gyfartal. Dyfarnodd y Llywydd y byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad oedd bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd ac nad oedd darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ail-agor yr enwebiadau wedi iddynt gael eu cau.

Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y Llywydd y byddai'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog. 

Gwahoddodd y Llywydd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad, a dilynwyd ef gan arweinwyr y gwrthbleidiau.

 

 

2.

Cynnig o dan Rheol Sefydlog 12.10(ii) i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn nesaf

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.10, gall y Cynulliad ystyried hefyd:

(i) unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16; a

(ii) unrhyw fusnes arall y mae’r Cynulliad yn cytuno arno drwy benderfyniad.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.03.

Cyflwynodd Jane Hutt gynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i ddwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r cyfarfod llawn nesaf ar 24 Mai 2016, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 14.04

Bydd y Cynulliad yn eistedd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13.30 ddydd Mawrth 24 Mai 2016 yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog.