Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: (1)v1 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gwahoddodd y Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

 

Cafodd Elin Jones ei henwebu gan Dai Lloyd.

Eiliodd Jane Hutt yr enwebiad.

 

Cafodd Dafydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam Price.

Eiliodd Neil Hamilton yr enwebiad.

 

Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Cynulliad.

 

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.

 

Canlyniad y bleidlais gudd oedd:

Elin Jones

 

Dafydd Elis-Thomas

Ymatal

Cyfanswm

34

25

1

60


 Cyhoeddodd y Llywydd fod Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd.

 

Daeth Elin Jones i’r Gadair ac annerch y Cynulliad.

 

2.

Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

Gwahoddodd y Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

 

Enwebwyd John Griffiths gan David Rees

Eiliodd Janet Finch-Saunders yr enwebiad.

 

Enwebwyd Ann Jones gan Joyce Watson.

Eiliodd Angela Burns yr enwebiad.

 

Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Cynulliad.

 

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 6.8

 

Canlyniad y bleidlais gudd oedd:

John Griffiths

Ann Jones

Ymatal

Cyfanswm

29

30

0

59


Cyhoeddodd y Llywydd fod Ann Jones wedi’i hethol yn Ddirprwy Lywydd a’i gwahodd i annerch y Cynulliad.

3.

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.01.

 

Penderfynodd y Cynulliad gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.

 

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.

 

Cafodd Carwyn Jones ei enwebu gan Jane Hutt.

 

Cafodd Leanne Wood ei henwebu gan Rhun ap Iorwerth.

 

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd.  Cafodd Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais oedd:

Carwyn Jones

 

Leanne Wood

Ymatal

Cyfanswm

29

29

0

58

[gweler y crynodeb o’r pleidleisiau i gael y canlyniad llawn]

Gan fod y pleidleisiau rhwng y ddau ymgeisydd yn gyfartal, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 15.09.

 

Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.47. Cyhoeddodd y Llywydd, gan ei bod yn amlwg na fyddai cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr yn arwain at ganlyniad pendant, ei bod yn gohirio’r cyfarfod ac yn dwyn y trafodion i ben.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, bydd y Llywydd yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu o ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Crynodeb o alw'r gofrestr

Dogfennau ategol: