Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 333
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.30 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 NDM7681 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. Dogfennau
ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 NDM7681 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Gorchymyn
Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 - Tynnwyd yn ôl Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 NDM7678 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1, Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth
Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. Dogfennau ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.25 NDM7678 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5: 1, Yn cymeradwyo Rheoliadau
Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws)
2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi NDM7668 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio
Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog
26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7668 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd NDM7669 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor
Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 NDM7669 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor
Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd NDM7670 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y
Pwyllgor Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7670 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y
Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice NDM7671 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.48 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7671 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd NDM7672 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog
12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.52 NDM7672 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor
Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
cyflwyno Rheol Sefydlog 12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. . |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau NDM7673 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor
Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.54 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7673 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor
Busnes Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol NDM7674 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.56 NDM7674 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor
Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro NDM7675 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch
defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn
etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.01 NDM7675 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor
Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi argymhelliad y
Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol
Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y
Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol NDM7676 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
1, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7676 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol’, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 1, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor
Busnes. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad-Adroddiad 05-21 NDM7679 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- Adroddiad 05-21 a osodwyd gerbron
y Senedd ar 17 Mawrth 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.23 NDM7679 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 05-21 a osodwyd gerbron y Senedd ar 17 Mawrth
2021 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd NDM7680 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
Yr adolygiad o'r cod ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 (“yr adroddiad”). 2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau
o’r Senedd a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched
Senedd. 3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod
Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad. Pwyllgor Safonau
Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd . Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7680 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth
2021 (“yr adroddiad”). 2. Yn mabwysiadu'r Cod
Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd. 3. Yn nodi’r canllawiau sy’n
cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad. Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer
Aelodau'r Senedd Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol NDM7682 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf
Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1
Chwefror 2021. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021. Ymateb
Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Ymateb
Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig) Llythyr
gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.31 NDM7682 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021. Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Ymateb Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig) Llythyr
gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn NDM7667 Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus,
'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.13 NDM7667 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn
hyn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Mawrth 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni? NDM7666 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg
a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y
cyfryngau y mae eu hangen arni?’ Fe’i osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7666 Bethan Sayed
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall
Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11
Mawrth 2021. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru NDM7683 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru
dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru. 2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei
wneud o ran yr economi. 3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn
i'r pandemig ddod i ben. 4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru
hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg. 5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod
angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn
darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys: a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf
15,000 o swyddi gwyrdd; b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd
aros yng Nghymru; c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc; d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan
gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55; e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth
gyngor am ddwy flynedd; f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net
erbyn 2050. BBC Newyddion
- Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai
2018 (Saesneg yn unig) BBC Newyddion
- Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' -
25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig) BBC Newyddion - Covid:
Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' - 9 Tachwedd 2020 (Saesneg
yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi: a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach; b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd; c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion; d) datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net; e) adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu. 2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy
ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan,
benderfynu ar ein dyfodol. Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu
i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol
drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd. Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd
nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith bod
llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd
bywyd pobl Cymru. 2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y
maent yn ei wneud o ran yr economi. 3. Yn nodi bod y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar
gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben. 4. Yn nodi ymhellach bod cyn
Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar
y bêl ar addysg. 5. Yn cydnabod, er mwyn
ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6
Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys: BBC News
- Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai
2018 (Saesneg yn unig) BBC News
- Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' -
25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig) BBC
News- Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' -
9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi: a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach; b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd; c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion; d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net; e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu. 2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy
ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan,
benderfynu ar ein dyfodol. Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu
i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol
drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd
nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7683 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi: a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan
gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach; b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd; c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion; d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net; e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu. 2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Y Rhaglen
Lywodraethu
Gan fod nifer y
pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw i bleidleisio
yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7677 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Hosbisau plant - cronfa achub i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.44 NDM7677 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Hosbisau plant - cronfa achub i Gymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18,
am 19.07 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiadau i Gloi Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.24 |