Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 276(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/05/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Dechreuodd yr eitem
am 13.34 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd
fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau
Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf
Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o
ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr
agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi
cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a
byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau
Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys
i'r cyfarfod hwn. |
||
Datganiad gan y Llywydd Nododd y Llywydd mai hwn oedd cyfarfod cyntaf Senedd
Cymru a bod y newid enw yn adlewyrchu'r ystod o bwerau a chyfrifoldebau y mae'r
Senedd yn eu gweithredu ar ran pobl Cymru. Dywedodd y Llywydd, er bod enw'r sefydliad wedi
newid yn swyddogol, mai’r flaenoriaeth o hyd, fel dros yr wythnosau diwethaf,
yw ymateb i argyfwng coronafeirws a bod dinasyddion Cymru, yn fwy nag erioed
o'r blaen, yn disgwyl Senedd genedlaethol gref i weithio er budd pobl Cymru. |
||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.35 |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i
gynyddu'r capasiti i ddarparu strategaeth brofi, olrhain ac ynysu o ran coronafeirws
ar gyfer Cymru, yn dilyn adroddiadau mai cyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus
Cymru yw y gallai fod angen 30,000 o brofion y dydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.35 Gofyn i’r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r capasiti
i ddarparu strategaeth brofi, olrhain ac ynysu o ran coronafeirws ar gyfer
Cymru, yn dilyn adroddiadau mai cyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y
gallai fod angen 30,000 o brofion y dydd? |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.49 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14:53 Am 15.57 gohiriwyd
y cyfarfod am 10 munud. |
|
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.11 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.57 |