Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 229(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gwahoddwyd
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad. Enwebwyd Dawn Bowden gan Huw Irranca-Davies. Eiliwyd gan Vikki
Howells. Gan nad oedd dim enwebiadau eraill, etholwyd Dawn Bowden |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gofynnwyd
cwestiynau 1- 5 a 7 - 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.19 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): Beth
mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio
gan Thomas Cook yn cau? (TAQ341) Cofnodion: Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.24 Gwnaeth Angela Burns ddatganiad ar Ddiwrnod
Fferyllwyr y Byd (25 Medi) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion NDM7139 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i
Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 11 Mehefin 2019. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 NDM7139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i
Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth NDM7140 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r sylwadau a
wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn
Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer
cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill. Ymgysylltu
â rhanddeiliaid: cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21, Mehefin 2019 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM7140 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi'r sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor
Cyllid yn Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar
gyfer cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Blaid Brexit - Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi
aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad
amhenodol. 2. Yn nodi bod Cymru,
fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb
Ewropeaidd. 3. Yn cefnogi
datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae
rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll
teithwyr rheilffyrdd ac awyr. 4. Yn nodi'r rhan a fu
gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad
Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r
A55. 5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4
drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan. Cytuniad
yn sefydlu Cymuned Economaidd Ewrop Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau
rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei
diwygio mewn modd radical”. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir
sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE”. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, yn lle
“fel toll”, rhoi “fel plismona a chyfiawnder a tholl”. Gwelliant 4 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
y DU: a) i gryfhau ei hymrwymiad
i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif
linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng
Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi; b) i ddarparu cyllid
llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn
ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd
orau o’i ddefnyddio. [Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol] Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 5, ar ôl
'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain
Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. 2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a
fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o
ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr. 4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y
gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â
rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r
A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd
Cymru a'r DU gyfan.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r
ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd
datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil
profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru
heb i’r DU aros yn yr UE”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym mhwynt 3, yn lle “fel toll”, rhoi “fel plismona a
chyfiawnder a tholl”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
y DU: a) i gryfhau ei
hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r
prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng
Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi; b) i ddarparu cyllid
llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn
ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd
orau o’i ddefnyddio. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant
4. Gan fod gwelliant
4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain
Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol ond yn credu bod angen i’r ffordd
y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a
Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical. 2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn credu, yn sgil
profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru
heb i’r DU aros yn yr UE. 3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a
fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o
ddatganoli o'r fath, fel toll fel plismona a chyfiawnder a tholl teithwyr
rheilffyrdd ac awyr. 4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y
gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â
rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55. 5. Yn
galw ar Lywodraeth y DU: a)
i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft
drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi
mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi; b)
i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os
bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o
ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.24 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7142 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Agwedd ysgol gyfan
Cymru: cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 NDM7142 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Agwedd
ysgol gyfan Cymru: cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn
ysgolion. |