Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 190(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Tai
a Llywodraeth Leol Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y
ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd yng ngoleuni'r
adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gofyn
i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd
yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.20 Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Dymuno
pob lwc i’r Nomads (ei dîm pêl-droed lleol) cyn eu gêm gynderfynol yng Nghwpan Irn
Bru (yr unig dîm o Gymru yn y gystadleuaeth) a dymuniadau gorau i Gasnewydd cyn
y gêm yn erbyn Manchester City. Gwnaeth
Suzy Davies ddatganiad am -
Defibruary – ymgyrch a gaiff ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru ym mis Chwefror bob blwyddyn i annog pobl a sefydliadau i
ystyried gosod diffibriliwr, codi arian i brynu un, a rhoi cyhoeddusrwydd i’r
diffibrilwyr sydd ar gael o amgylch Cymru y gall y cyhoedd eu defnyddio mewn
achos brys. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.23 NDM6971
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii),
yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol. NDM6972
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol
Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.23 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 NDM6965
Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2019. Cafwyd ymateb gan
Cyfoeth Naturiol Cymru i'r adroddiad ac fe’i cyhoeddwyd
ar dudalen y Pwyllgor ar y we ar 14 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 NDM6965
Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2017-18 – a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru NDM6967
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd
ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw. 2. Yn ymrwymo
Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau
lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu
cyflawni yng Nghymru. Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu
Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau
annibynnol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.02 NDM6967
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion NDM6966
Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai
fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai
a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd. 2. Yn penderfynu na
ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai
carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu. 2. Yn cefnogi’r
egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn
disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r ffocws
gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a
lleihau aildroseddu. Yn nodi bod y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion. Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2, dileu 'na
ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn
ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i
etholiadau Cymru yn y dyfodol'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6966 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac
mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd. 2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn
etholiadau Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai
fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu. 2. Yn cefnogi’r egwyddor
o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6966 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai
carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu. 2. Yn cefnogi’r egwyddor
o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd
yr eitem am 18.35 Cododd
Jane Hutt AC Bwynt o Drefn o dan Reol Sefydlog 12.37 yn nodi ei bod wedi mynegi
gwrthwynebiad i NDM6967 (dadl Plaid Cymru – Grant Byw’n Annibynnol Cymru) gael
ei dderbyn heb ei ddiwygio a gofynnodd i’r Llywydd egluro statws y cynnig
hwnnw. Ymatebodd
y Llywydd drwy ddatgan nad oedd hi na’r Clercod wedi clywed y gwrthwynebiad a
bod y cynnig heb ei ddiwygio wedi ei dderbyn eisoes fel y cytunwyd o dan Reol
Sefydlog 12.36. Fodd bynnag, nododd y Llywydd y gwrthwynebiad a chadarnhaodd
fod safbwynt y Llywodraeth bellach yn fater i’r cofnod. |
||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.36 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.39 NDM6962 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar
gyfer heriau modern. |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |