Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 156(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-7 A 9. Cafodd cwestiynau 3 a 5
eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 4
gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Cafodd cwestiwn 8 ei drosglwyddo i’w
ateb yn ysgrifenedig . Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar
ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 9. Tynnwyd cwestiwn 7 yn
ôl. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig] Neil
McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr
sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau
pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o
wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig: Neil
McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r
gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r
damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau
sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae
Caerdydd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad ar Croesawu
Pennaeth Chinamhora i’r Cynulliad heddiw, yn helpu i feithrin perthnasau cadarn
rhwng Cymru a Simbabwe Gwnaeth Ann Jones ddatganiad ar Max
Bentley - Seren y dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 NDM6780
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r Gwaith Craffu ar
ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2018. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 12 Medi 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.30 NDM6780
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r
Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13
Mehefin 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion NDM6776
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith
bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel
waethaf ers 2005. 2. Yn mynegi pryder am
safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau
arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg
lleol Cymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu
fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn: 1. Croesawu: a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau
uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu; b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar
gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C; c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael
A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a
gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf; d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn
gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009. 2. Nodi: a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a
chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw
gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd
blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan; b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod
ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n
cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef
bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru
dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y
bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad. Adroddiad
Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU yng Nghymru – Haf 2018
(Saesneg yn unig) Adroddiad
y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd – 'The Welsh
Education Reform Journey' (Saesneg yn unig) Adroddiad
y Sefydliad Astudiaethau Cyllid – ‘Comparing
Schools Spending per Pupil in Wales and England’ (Saesneg yn unig) Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn
derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel. Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu
addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.41 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6776 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod
cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel
waethaf ers 2005. 2. Yn mynegi pryder am safonau
ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig
gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol
Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl
rhwng Cymru a Lloegr.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Croesawu: a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau
uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu; b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar
gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C; c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael
A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a
gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf; d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn
gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009. 2.
Nodi: a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a
chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw
gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd
blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan; b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod
ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n
cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef
bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru
dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y
bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd at
ddiwedd y cynnig: Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg
i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel
uchel o sgiliau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Croesawu: a. bod cyfran y
disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu; b. bod cynnydd o
50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o
gofrestriadau yn cael A*-C; c. bod cynnydd yn
nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan
gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd
a’r haf; d. bod 76.3 y cant
o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers
2009. 2. Nodi: a. rhybudd
Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid
bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf
2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn
sefydlog ar y cyfan; b. bod y Sefydliad
ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl
maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a
byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a c. casgliad y
Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi
cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn,
i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy
wlad. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn
addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o
safon uchel. 4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn
addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda
lefel uchel o sgiliau.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yr Ucheldir NDM6779
Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylid
dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i
fryniau Cymru. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi
arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn
gyffredinol. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o
ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r
ardaloedd hynny â da byw. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth
ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. 2. Yn credu bod
diwydiant da byw Cymru yn sector integredig a bod da byw yr ucheldir a'r
iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd. 3. Yn nodi pwysigrwydd
ffermio ar yr ucheldir i gymunedau gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth
Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn
ychwanegu gwerth at y sector da byw. 4. Yn annog
Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid o ran sut y
mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell
elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad
sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod
ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan bwysig o economi Cymru. 2. Yn nodi â phryder y
peryglon y mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i
ffermydd defaid yr ucheldir. 3. Yn cefnogi aros yn
yr UE fel ffordd o gadw statws y farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE
ac yn colli aelodaeth o'r farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
cymorth digonol i ffermydd defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles
anifeiliaid ac amgylcheddol uchel. [Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn
ei le Mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod
canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i
ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid
i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir. 2. Yn nodi canlyniadau
gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng
Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr
ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. 3. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a
fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun
mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus. Cofnodion: 7
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yr
Ucheldir Dechreuodd yr eitem am 17.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6779 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylid dychwelyd
defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith bod y
penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod
enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr
ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â
da byw.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses
o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. 2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector
integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd. 3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau
gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o
gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw. 4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei
ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant
defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo
a marchnata cig coch Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan
bwysig o economi Cymru. 2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad
sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir. 3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y
farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r
farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd
defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol
uchel. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio
senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld
dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael
â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. 3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a
fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a
nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid
Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6779 Gareth Bennett (Canol De Cymru) 1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau
masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i
ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth
newydd ar gyfer rheolwyr tir. 2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio
senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld
dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael
â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. 3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a
fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a
nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid
Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6775
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Gwella ein
democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y
ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig. Cofnodion: NDM6775 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Gwella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y
mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy
caredig. Daeth y cyfarfod i
ben am 18.40 Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf
y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Medi 2018 |