Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 123(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.35

(45 munud)

4.

Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

(15 munud)

5.

Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018

NDM6676 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

6.

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

NDM6674 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael eillunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM6674 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  1 Chwefror 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18

NDM6657 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9 Chwefror 2018.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6657 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2018.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

23

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17

NDM6675 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.

Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

NDM6675 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM6675 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.

2. Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth

NDM6672 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.  Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitemau am 17.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6672 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.  Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

10

54

Derbyniwyd y cynnig.

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

NDM6673 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Cofnodion:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6673 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.44

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: