Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 100(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(5 munud) |
Enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn unol â Rheol Sefydlog
17.2F. Enwebwyd Mick Antoniw gan Mike Hedges. Eiliodd Jane
Hutt a Jenny Rathbone yr enwebiad. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd
gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mick Antoniw wedi ei ethol
yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Gohiriwyd o 8 Tachwedd Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.31 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2, 6-8 ac 11-12. Tynnwyd cwestiynau 3, 4, 5 a 9 yn ôl. Ni ofynnwyd
cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd
y Cabinet a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gohiriwyd o 8 Tachwedd Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3, 4 a 6–8. Tynnwyd cwestiynau 2
a 5 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |
||||||||||
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |
||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllwein Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y
Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru Andrew RT
Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o
honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i
gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw
honiadau eu gwneud? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Jane Hutt (Bro
Morgannwg): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd
gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os
na fydd cytundeb ar Brexit? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig Simon Thomas (Canolbarth a Gorllwein Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y
camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth,
yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt? Gofyn i Brif Weinidog Cymru Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn
ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei
ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd
unrhyw honiadau eu gwneud? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus) Jane Hutt (Bro Morgannwg): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y
rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn
perygl os na fydd cytundeb ar Brexit? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.25 Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad yn talu teyrnged i’r
newyddiadurwr ymchwiliol o Gymru, Gareth Jones (1905–1935). |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd
yr eitem am 15.26 NDM6569
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.3, yn ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane
Hutt (Llafur). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19 NDM6564
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y
Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM6564
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl
1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y
Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gohiriwyd o 8 Tachwedd NDM6528 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn
cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched
yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer
hwn; b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm
Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff; c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu
a phob ymarferydd meddygol; a d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr
effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r
broblem. Cefnogwyd
gan: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6528 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn
eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda
chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn; b)
annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a
Chymdeithasol a hyfforddi staff; c)
codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol;
a d)
gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf
yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd o 8 Tachwedd NDM6556
David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o
fewnfudwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.21 NDM6556
David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Camfanteisio
ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr. |
|||||||||
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol yng Nghymru - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |
||||||||||
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |
||||||||||
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |
||||||||||
Dadl Fer (Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)) - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd |