Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 80(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol I
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr):
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau arfaethedig
i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 I
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr):
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau
arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad ar y maer Asiaidd cyntaf yng Nghymru, Dr Shah Imtiaz. Gwnaeth
Dawn Bowden ddatganiad ar enillydd gwobr Womenspire, Sarah Draper, a’i gwaith
yn ymwneud ag ymgyrch “Merthyr Girls Can”. Gwnaeth
Llyr Gruffydd ddatganiad ar Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6283 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd
diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella
effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. 2.
Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n
sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi
tanwydd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi
ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o
bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat. 4.
Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a
chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch
gwaith. 5.
Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd
i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi
cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i
niwed. 6.
Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd,
lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni
a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu. 7.
Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym
mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru. Cefnogir
gan: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.35 NDM6283 Cynnig

mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru NDM6347 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar
ddyfodol rheoli tir yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2017. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2017. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.25 NDM6347 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar
ddyfodol rheoli tir yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i
economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2.
Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd
cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru. 3.
Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a
myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad
Diamond. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi
parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i
bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach
addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a b)
buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau
i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a
chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog
ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru. Yn
cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd
newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am
gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i
fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Yn
cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau
ategol ar gyfer pobl o bob oedran. Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a
chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn
galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.31 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn
arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2. Yn cefnogi mentrau fel
Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned i Gymru. 3. Yn croesawu'r pecyn
cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a
gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) darparu gwasanaeth
cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i
opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn
cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a b) buddsoddi mewn addysg
oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac
addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu
gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n
annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa
Cymru. Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi
ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan
allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd
er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran
addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion
ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion
ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n
rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer
blwyddyn academaidd 2018/19. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn
arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2. Yn cefnogi mentrau fel
Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned i Gymru. 3. Yn croesawu'r pecyn
cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a
gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond. 4. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a
chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog
ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru. 5. Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth
iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo
rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am
yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol
o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. 6. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan
oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran. 7. Yn
annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a
chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn
galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.31 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6338 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Technoleg
a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle? Sut
y mae'r Gymraeg yn ymdopi â heriau, bygythiadau a chyfleon y dechnoleg newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.33 NDM6338 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Technoleg
a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle? Sut
y mae'r Gymraeg yn ymdopi â heriau, bygythiadau a chyfleon y dechnoleg newydd |