Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 55(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.16 I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u
cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith
Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu
gwerthu Vauxhall i Peugeot? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.59 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17 NDM6236 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30,
yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu
talu o'r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r
Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn
a'r rhai blaenorol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio. NDM6236 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30,
yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth,
7 Chwefror 2017. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu
talu o'r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16 NDM6246
Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar
gyfer 2015-16. Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod
ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y
ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru. Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad
yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd. Gwelliant
3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai
arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi
Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y
bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at
berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16,
pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y
pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater
o frys. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6246
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2015-16. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau
gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu
Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau,
a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd
yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a
gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth
a rheoli fel mater o frys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6246
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2015-16. 2.
Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu
Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau,
a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth. 3.
Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a
arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion
ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth,
arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod NDM6247
Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau
menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn bod
menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn
gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng
Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
sy'n fenywod. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod
40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu
nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir
gan Lywodraeth Cymru. Gwelliant
2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y
bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn
14.6 y cant. Gwelliant
3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod 29
y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog
byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym
mis Ebrill 2016. Gwelliant
4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai
cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach
yn dod yn orfodol mewn ysgolion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 NDM6247
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad
a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a
diwylliannol Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn
gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng
Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
sy'n fenywod. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y
rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn
fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau
cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru
yn 2015 yn 14.6 y cant. Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai
na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o
£8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016. Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi
perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6247
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad
a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol
Cymru. 2.Yn nodi
bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn
gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng
Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
sy'n fenywod. 3.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y
rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn
fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau
cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. 4.
Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng
Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant. 5.
Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill
llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o
£8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |