Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 50(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 9
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd
yr eitem am 14.21 I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith: Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinewfwr):
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu
Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development
Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31 Ni chyflwynwyd unrhyw
gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31
Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad ynglŷn â sut mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Dinas
Abertawe yn rhoi llais i gefnogwyr pêl-droed. Gwnaeth
Janet Finch Saunders ddatganiad yn nodi 65 mlynedd ein Brenhines ar yr orsedd. Gwnaeth
Dai Lloyd ddatganiad yn nodi 300 mlynedd ers geni’r emynwr William Williams,
Pantycelyn ddydd Sadwrn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau NDM6222 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub
bywyd. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant
sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau: i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei
ddarparu; ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau
priodol; iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub
bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na
pherson cymorth cyntaf penodedig); a iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r
cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig. c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio. NDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub
bywyd. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant
sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau: i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei
ddarparu; ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau
priodol; iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub
bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na
pherson cymorth cyntaf penodedig); a iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r
cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig. c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr
uchod. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid NDM6230 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar
'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i
Waith Ieuenctid' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016. Dogfen ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM6230 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth
ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid' a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6229 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn
eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau
addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a
diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n
disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr
addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys buddsoddi cyfran yn y
sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad addysg bellach a chyfran yn y
ddarpariaeth Gymraeg. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch
yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd
ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg
galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd. 3.
Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel
i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a
gwasanaethu economi Cymru. 4.
Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac
Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5.
Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid
ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen
gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6.
Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael
effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys
addysg uwch ac addysg bellach. Cyllideb
Llywodraeth Cymru 2017-18 [Os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Yn
credu y dylid sicrhau parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac
academaidd, ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at hyrwyddo cydraddoldeb
rhyngddynt. Gwelliant
3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer
o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn
ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi
Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel
deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd
eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n
disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr
addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys buddsoddi cyfran yn y
sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad addysg bellach a chyfran yn y
ddarpariaeth Gymraeg.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad
pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi
cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o
gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn
cael parch cydradd. 3. Yn cydnabod pa mor
bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn
y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru. 4. Yn croesawu'r £30m o
gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng
nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5. Yn nodi'r gwaith a
wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy
Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer
cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6.
Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael
effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys
addysg uwch ac addysg bellach. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Derbyniwyd gwelliant 1,
felly cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer
o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn
ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad
pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi
cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o
gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn
cael parch cydradd. 3. Yn cydnabod pa mor
bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn
y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru. 4. Yn croesawu'r £30m o
gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng
nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5. Yn nodi'r gwaith a
wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy
Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer
cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6.
Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael
effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg
uwch ac addysg bellach. 7.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu
llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn
ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6232
Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1.
Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru. 2.
Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru. 3.
Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau
gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf
economaidd ym mhob rhan o Gymru. 'Building
our Industrial Strategy – UK Government Green Paper January 2017'
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 1.
Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru. 2.
Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi
gogledd Cymru. 3.
Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd
i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru. 4.
Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd
Cymru. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer
Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei
hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch
economaidd trawsffiniol. [Os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i
gyhoeddi. 2.
Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol,
ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU
dros y flwyddyn ddiwethaf. 3.
Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer
cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4.
Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen
Dwf Gogledd Cymru. 5.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob
maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o
Gymru. 6.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth
gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y
setliad datganoli. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6232 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Strategaeth
Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru. 2. Yn cydnabod y gwaith
rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru. 3. Yn credu y gall
dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau gwelliannau
economaidd i gymunedau ledled Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf
economaidd ym mhob rhan o Gymru.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi'r angen i
gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru. 2. Yn cydnabod pa mor
bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru. 3. Yn credu bod angen i
unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg
buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru. 4. Yn galw am raglen gyson
o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i
gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y
gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd
â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Papur
Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. 2. Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu
at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn
ddiwethaf. 3. Yn nodi cynllun
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf
economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4. Yn cydnabod y gwaith
rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru. 5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o
ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru. 6.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth
gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y
setliad datganoli. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6232 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Papur
Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. 2. Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu
at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn
ddiwethaf. 3. Yn nodi cynllun
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf
economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4. Yn cydnabod y gwaith
rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru. 5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o
ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru. 6.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth
gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y
setliad datganoli.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.04 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6231 Lynne Neagle
(Torfaen): Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM6231 Lynne Neagle (Torfaen): Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |