Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 27(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: yr UE – Trefniadau Pontio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Cwestiynau Brys

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 15.12

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Dir Benfro): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y cafodd y gweinyddwyr eu galw i Main Port Engineering yn Sir Benfro, er gwaethaf i'r cwmni gael grant o £650,000 gan Lywodraeth Cymru?

 

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 15.30

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau paediatrig yn Ysbyty Llwyn Helyg?

 

Cwestiwn Brys 3

Dechreuodd yr eitem am 15.40

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

Simon Thomas (Caolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drydedd rhedfa yn Heathrow? 

 

Cwestiwn Brys 4

Dechreuodd yr eitem am 15.51

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Lee Waters (Llanelli): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave?

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Yr Adolygiad Seneddol i Wasanaethau Iechyd a Gofal

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

(30 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

(30 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

(30 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

 

(0 munud)

8.

GOHIRIWYD TAN 22 TACHWEDD: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Canolbwyntio ar Allforion

(0 munud)

9.

GOHIRIWYD TAN 15 TACHWEDD: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf

(60 munud)

10.

Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016

NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"

Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.31

NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"

2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.

3. Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.

4. Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.

5. Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.