Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 25(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 10
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem
am 14.17 Russell
George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth
Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn
dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf
Cymru a'r Gororau?
EAQ(5)0055(EI) |
||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.28 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Ddrafft 2017-18 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.44 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.33 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.21 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.16 |
|
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2015-16 Comisiynydd y Gymraeg NDM
6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu
gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y
Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y
Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn
cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau
i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg. Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y
Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith
Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi
dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau
addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi
hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.54 NDM
6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n
manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r
defnydd o'r Gymraeg. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y
Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o
filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno
strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r
Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau
drwy’r Gymraeg. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn
gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a
Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd
statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau
addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi
hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM
6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n
manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r
defnydd o'r Gymraeg. 2.Yn
nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y
Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o
filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 3.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno
strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r
Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn
gwasanaethau drwy’r Gymraeg. 4.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn
gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth
Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i
awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i
gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant
addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Derbyniwyd cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd Cyfnod
Pleidleisio. |