Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 12(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 muned) |
Dadl ar Araith y Frenhines NDM6060 Elin Jones
(Ceredigion) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Dogfennau
ategol: Briff Ymchwil: Araith y Frenhines Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor
bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu
cynnig i'r Alban. Gwelliant 2 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei
olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr
UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a
Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau
gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU
oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.02 Yn
unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw
bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. NDM6060 Elin Jones (Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith
nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau
tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r Briff Ymchwil:
'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn
credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob
deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â
meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth
yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y
Senedd berthnasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6060 Elin Jones (Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 2. Yn gresynu at y
ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig
pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r
Alban. 3. Yn nodi'r Briff
Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i
Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i
sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r
UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch
bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu
dirymu gan y Senedd berthnasol.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.52 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 a
7 gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gofynnwyd y ddau
gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6058 Yn credu bod gan gwmni
dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn nodi pa mor bwysig
ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2
a 3 yn methu. Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod rôl
hanfodol y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre i
economi Cymru a'r holl Deyrnas Unedig. 2. Yn cydnabod gwaith
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gynorthwyo TATA i ganfod prynwr
credadwy i waith dur Port Talbot. 3. Yn annog Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i lunio strategaeth i sicrhau hyfywedd a
photensial hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru. 4. Yn annog Llywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio â gwledydd eraill yn Ewrop ac ar draws y
byd i sicrhau cytundebau masnach sydd o fantais i ddiwydiant dur Cymru. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn
methu. Gwelliant 3 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl
'credu' a rhoi yn ei le: 'ei bod yn bwysicach nag
erioed, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE, bod Llywodraeth y DU yn gweithio
gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant gwneud dur
yng Nghymru.' Gwelliant 4 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn parhau i bwyso ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant
dur Cymru. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn
benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy
newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r
mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a
datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella
cyfleoedd busnes TATA UK. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes
angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r
Undeb Ewropeaidd. Yn gresynu at
benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn
Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch
yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6058 Yn credu bod gan gwmni
dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn nodi pa mor bwysig
ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant
4 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol
yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol
Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle
TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon
2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws
Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu
cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd
sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn gresynu at
benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn
Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch
yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6058 1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl. 2. Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes
angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r
Undeb Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.51 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Dadl Fer - WEDI EI OHIRIO TAN 13 GORFFENNAF NDM6059 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Edrych ar waith yr
undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a
chefnogaeth i undebau. Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem tan 13 Gorffennaf 2016 NDM6059 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Edrych ar waith yr
undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a
chefnogaeth i undebau. |