Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 8(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 11 a 13. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 5 a 7, a 10 a 15 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gynnig teitlau a chylch gwaith pwyllgorau NDM6031 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1: 1.
Yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u
nodir yn Rheol Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn
Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â
Chronfa Gyfunol Cymru. 2.
Yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor
cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 ac 18.3 ac ystyried unrhyw
fater arall yn ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd
adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM6031 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1: 1. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau
Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa
Gyfunol Cymru. 2. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir
yn Rheolau Sefydlog 18.2 and 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â
pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth
gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgor NDM6049 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: (i) Mike Hedges (Llafur
Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a
Mark Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor
Cyllid; a (ii) Simon Thomas (Plaid
Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM6049 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: (i) Mike Hedges (Llafur Cymru),
Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid
Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark
Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid;
a (ii) Simon Thomas (Plaid
Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6029 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r heriau i'r
gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) symud ymlaen gyda mwy
o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a b) cynyddu nifer y
meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd
o amddifadedd. Cyflwynwyd y Gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1- Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno asesiadau aros yn y cartref gwirfoddol i hybu byw'n annibynnol
a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun newydd, cyn gynted â phosibl, ar gyfer mynediad at
wasanaethau iechyd a seilwaith gwasanaeth iechyd ar gyfer cymunedau gwledig.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn. Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gau
ysbytai cymuned ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac
ailsefydlu ysbytai cymuned pan fydd hynny'n bosibl er mwyn dwyn gwasanaethau yn
nes at gartrefi pobl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6029 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran
gofalu am boblogaeth hŷn. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng
iechyd a gofal cymdeithasol; a b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio
ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6032 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl y
mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i
gymunedau ledled Cymru. 2. Yn nodi â phryder yr
ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o
ran darparu gwasanaethau effeithiol. 3. Yn cydnabod bod angen
gwneud mwy i fynd i'r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod
nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn
2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r
nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio
awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn nodi cynnwys
adroddiad Sunderland ar drefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau
llywodraeth leol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6032 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei
chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru. 2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg
eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu
gwasanaethau effeithiol. 3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r
afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth
fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef
cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r nifer a
bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen
dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd
rhan mewn proses ymgynghori gadarn.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6030
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai
Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n gadael yr Undeb
Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6030 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn
fwy llewyrchus pe byddai'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.14 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6033
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi
dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.17 NDM6033 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? |