Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Manon Antoniazzi (Prif Weithredwr a Chlerc) ac Elisabeth Jones (Prif Gynghorydd Cyfreithiol).

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Nodyn cyfathrebu i'r staff - Gareth Watts

Cofnodion:

Byddai Gareth Watts yn drafftio nodyn am drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion staff.

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr yn gywir. 

Rhoddwyd y cynnydd ar y camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol:

·           Roedd y tîm Llywodraethu wedi adolygu templed ROAP, ac yn fodlon ei fod yn addas i'r diben yn gyffredinol a bod y ROAP adolygiad capasiti yn achos ar ben ei hun lle byddai rhagor o wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol. Nid oeddent yn cynnig newid o ran sylwedd;

·           Byddai arwyddion i gyfleu gwybodaeth am aflonyddu a'r polisi Urddas a Pharc yn cael eu hystyried yn dilyn ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau ar eu Hymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod Ymddygiad gan Aelodau’r Cynulliad; a

·           Roedd risgiau rhyngysylltiedig wedi'u hadolygu ac roedd papur wedi'i ail-linio yn cael ei baratoi ar y cyd gan aelodau'r Bwrdd Rheoli.

 

 

4.

Diwygio Etholiadol

Cofnodion:

Rhoddodd Adrian Crompton amlinelliad o'r papur sy'n cael ei gyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 22 Ionawr, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am waith y rhaglen Diwygio Etholiadol y Cynulliad a'r penderfyniadau i'w gwneud ar y cwmpas olaf a'r dull ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion y Panel Arbenigol, a materion eraill ynghylch diwygio deddfwriaeth. Byddai'r Comisiynwyr yn ystyried yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf p'un ai i gyflwyno Bil Diwygio'r Cynulliad a chwmpas cyffredinol unrhyw ddeddfwriaeth.

Trafododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer y gwaith ymgynghori a pharatoi sy'n cael ei wneud. Roedd swyddogion yn edrych ar yr adnoddau ehangach fyddai eu hangen er mwyn helpu i gyflawni Bil diwygio, er, heblaw am hynny, nid oedd hi'n bosibl rhagweld beth fyddai'r penderfyniadau polisi a'r effaith ar adnoddau yn sgil hynny.

Roedd y Llywydd yn cael trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol a'r Pwyllgor Busnes ynghylch y dull a'r amseriad ar gyfer ceisio mandad penodol gan y Cynulliad ar gyfer gwaith diwygio'r Cynulliad. 

CAMAU I’W CYMRYD:

·                Argymhellodd y Bwrdd egluro'r effaith ar adnoddau lle y bo'n hysbys, ac amlygu'r goblygiadau ynghylch amserlen y cyfnod ymgynghori.

·                Sulafa Thomas i ychwanegu gofyniad am oblygiadau adnoddau i'w cynnwys yn nhempled papur y Comisiwn a'i ail-ddosbarthu gyda'r canllawiau ar baratoi papur.

 

 

5.

Adolygiad Capasiti

Eitem lafar

Cofnodion:

Diolchodd Dave Tosh i bawb am eu cyfraniad i'r adroddiad, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr ar 22 Ionawr. Bydd gofyn iddynt ei gadarnhau a chefnogi'r pedair thema a nodwyd yn yr adolygiad. Yn dilyn hyn, byddai'r camau sy'n codi o'r adroddiad yn arwain at gam nesaf yr adolygiad, gan edrych ar oblygiadau'r canfyddiadau a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn ei weithredu, datblygu cynllun gweithredu realistig a ffordd o ddirprwyo camau er mwyn cyflawni canlyniadau.

Byddai angen i bwysau arall ar y sefydliad gael ei nodi yn y papur i helpu i flaenoriaethu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u diffinio eto ond a fyddai'n cael effaith ar adnoddau, fel Brexit a rhaglen diwygio'r Cynulliad a dylid cynnwys peth hyblygrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer blaenoriaethau i newid. Roedd hefyd yn bwysig adlewyrchu'n gywir holl strwythur y sefydliad a sut roedd yr holl wasanaethau yn cefnogi gwaith y Cynulliad.

Byddai grŵp llywio yn gyfrifol am ystyried sut i fwrw ymlaen â chanlyniadau'r adolygiad gyda chynrychiolydd o bob un o'r Cyfarwyddiaethau.

CAMAU I’W CYMRYD: Dave Tosh i ddatblygu Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Llywio ar gyfer cam 2.

 

 

6.

Adroddiad Rheolaeth Ariannol Rhagfyr 2017

Cofnodion:

Rhoddodd Nia Morgan amlinelliad byr o'r Adroddiad Rheolaeth Ariannol ar gyfer mis Rhagfyr, gan ailadrodd bod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol iawn, ond bod gwarged y Gronfa Fuddsoddi wedi gwella o ganlyniad i ddiweddariad i'r rhagolygon a adroddwyd, gan roi clustog mwy synhwyrol ar gyfer unrhyw gostau anhysbys yn y dyfodol.

Gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod i Nia am unrhyw newidiadau sy'n dod i'r amlwg i'r rhagolygon neu'r gwariant brys, cyn cyfarfod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yr wythnos ganlynol.

Roedd taenlenni newydd yn cael eu cyflwyno i hwyluso cyllidebu a rhagolygu mwy cywir ar gyfer 2018-19 a gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried sut i wneud arbedion ar gyllidebau ar draws Cyfarwyddiadau er mwyn darparu cronfa wrth gefn. 

Cafodd y Bwrdd Rheoli wybod hefyd y byddai gwaith ar y gyllideb 2019-2020 yn dechrau cyn bo hir.

 

 

7.

Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau

Eitem lafar

8.

Grid Cyfryngau

Cyflwyniad electronig

Cofnodion:

Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r grid cyfredol a oedd yn cynnwys gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a busnes i hwyluso gwaith cynllunio. Roedd y Cynulliad wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnos diwethaf, a oedd yn cynnwys nifer o ymweliadau, digwyddiad Facebook Live gyda thros 2,000 o bobl unigolyn yn edrych arno a nifer o sylwadau a chwestiynau, a lansio'r Adroddiad Lobïo. Er bod yr wythnos ganlynol yn llai beichus, roedd nifer o ymgynghoriadau’n cael eu lansio, ac roedd adroddiadau pwyllgor i ddod yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

 

 

9.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

Dywedodd Gareth Watts y byddai'r gofrestr risg gorfforaethol yn cael ei chyflwyno i ACARAC ym mis Chwefror a chytunodd y Bwrdd nad oedd angen adolygiad dwfn gan ACARAC ar yr achlysur hwn.

 

 

10.

Blaenraglen waith y Bwrdd Rheoli/y Comisiwn

Papur i’w nodi

11.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Rhoddodd Dave amlinelliad o gyfarfod strategaeth yr uwch dîm ym mis Rhagfyr, a oedd yn gyfle i drafod yr adolygiad capasiti yn estynedig, ynghyd â strwythur y sefydliad a'r camau nesaf. Ystyriwyd y berthynas hefyd a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ac roedd Manon Antoniazzi yn paratoi papur cynnig.

Nododd y Llywydd ei bod yn awyddus i edrych ar y posibilrwydd i fynd â'r Cyfarfod Llawn i leoliad arall yng Nghymru. Byddai angen amserlen dros dro yng ngwanwyn 2020 a byddai angen cronfeydd ychwanegol i gefnogi hynny, pe byddai'n mynd yn ei flaen. Dave Tosh ac Adrian Crompton i roi asesiad o oblygiadau cost ac adnoddau i'r Comisiwn eu hystyried.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 8 Chwefror.