Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Watts (Pennaeth
Llywodraethu ac Archwilio). Croesawodd y Bwrdd Catharine Bray, y Pennaeth
Cyllid dros dro, a oedd yn arsylwi'r cyfarfod.
Datganodd Chris Warner ei fuddiant ar gyfer yr eitem
ar amrywiaeth a chynhwysiant am ei fod yn ymddiredolwr/Cyfarwyddwr Anweithredol
yn Chwarae Teg. |
|
Nodyn cyfathrebu i staff - Craig Stephenson Cofnodion: Bydd Craig Stephenson yn drafftio nodyn am drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar
gyfer y dudalen newyddion. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 25 Mai yn
gywir. |
|
Adroddiad Blynyddol drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-17 Papur 2 –
Adroddiad drafft Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-17 Cofnodion: Cafodd Holly Pembridge ei chroesawu i'r cyfarfod a chyflwynodd yr adroddiad
naratif, a fyddai'n cyd-fynd â'r data dadansoddi ar gyfer y gweithlu, recriwtio
a chyflog pan gâi ei gyflwyno i'r Comisiwn gytuno arno yn yr hydref. Roedd yr
adroddiad yn pontio'r cyfnod adrodd rhwng y Cynllun Cydraddoldeb a oedd yn dod
i ben, a'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer y Pumed
Cynulliad. Bydd y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yn darparu'r Bwrdd â'r data a'r
cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth yn ystod mis Gorffennaf, ac roedd y
Tîm yn cydweithio'n agos â phenaethiaid gwasanaeth i ddiffinio amcanion y
cynllun gweithredu a'u hymgorffori yng nghynlluniau'r gwasanaethau. Roedd yr adroddiad blynyddol drafft yn adlewyrchu cwmpas eang ac ansawdd y
gwaith a gynhaliwyd ar draws y sefydliad i sicrhau corff seneddol cynhwysol i'r
staff a'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys
yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl a llesiant yn y
gweithle, cadw gwobrwyon a chydnabyddiaethau allanol (megis IiP, Stonewall, Y
Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Action
on Hearing Loss) a gwaith lefel uchel ynghylch Asesiadau Effaith Cydraddoldeb. Mae'r adroddiad hebyd yn nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt yn barhaus, gan
gynnwys datblygiad parhaus rhwydweithiau'r gweithle, Asesiadau Effaith
Cydraddoldeb lefel uchel a chanolbwyntio eto ar ymgorffori'r Cynllun Gweithredu
BME mewn gwaith ehangach. Gwnaeth y Bwrdd Rheoli argymhellion ar yr adroddiad drafft, gan gynnwys: ·
cyfuno naratif ymgysylltu'r gwaith
allgymorth a gwaith y pwyllgorau i ddangos y cysylltiad yn narpariaeth y
gwasanaethau; ·
sicrhau bod yr adroddiad wedi'i
alinio gydag adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn, a bod cyd-gysylltu
rhwng yr hyn a nodir a'r polisi recriwtio a'r cynllun gweithredu BME. Craig
Stephenson a Holly i drafod sedd ar y grŵp cyfeirio i wella gwaith y
cynllun gweithredu BME. ·
Non Gwilym a Holly i wella'r ffocws
ar gyfraniad Amrywiaeth a Chynhwysiant; a ·
cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae'r
sefydliad eisoes yn ei gyfrannu at ymgyrch y Rhuban Gwyn, a'r wythnos
Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Gorffennaf. Gofynnodd y Bwrdd, pan fydd ystadegau'r gweithlu ar gael, iddynt lywio rhai
o'r camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. |
|
Adroddiad Amgylcheddol blynyddol drafft 2016-17 Papur 3 –
Adroddiad drafft Amgylcheddol 2016-17 Cofnodion: Croesawodd y Bwrdd Nerys Evans i'r
cyfarfod i gyflwyno drafft y degfed Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol. Dangosodd
yr adroddiad duedd parhaus wrth i'r Cynulliad leihau ei effaith ar yr amgylchedd
â chynnydd da o ran cyrraedd y targedau ar gyfer 2021 a osodir yn y cynllun
cynaliadwyedd pum-mlynedd cyfredol. Roedd y ffocws yn y cyfnod dan sylw
ar fonitro a dadansoddi'n well i nodi cyfleoedd i wneud arbedion ar sail
effeithlonrwydd. Roedd meincnodi yn rhan allweddol o'r broses a byddai gwaith
yn cael ei barhau yn 2017-18 i feincnodi gyda'r seneddau datganoledig eraill.
Mae'n debygol y byddai'r Cynulliad yn symud i gael tystysgrif amgylcheddol ISO
14001. Roedd y Bwrdd yn cydnabod ei bod yn
angenrheidiol cydbwyso'r gost ar gyfer cyrraedd y targedau lleihad gyda'r
gwaith o wneud gwelliannau i gynaliadwyedd ac, ar hyn o bryd, roedd rhaglen
waith y Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn canolbwyntio ar wella drwy
ddiweddaru neu adnewyddu offer hŷn ag offer mwy effeithlon wrth iddynt
dynnu at ddiwedd eu hoes; meincnodi; rheoli a chynnal a chadw'n
effeithiol. Gwnaeth y Bwrdd Rheoli sylwadau ar y
drafft a gwnaed argymhellion, gan gynnwys: ·
adolygu sut y mae'r Cynulliad yn
cymharu â sefydliadau tebyg eraill, er enghraifft Llywodraeth Cymru, mewn
perthynas â'r defnydd o gerbydau; ac ·
egluro'r cynnydd mewn defnydd o
ddŵr ar gyfer y cyfnod dan sylw i fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer
y staff ac ymwelwyr. Diolchodd y Bwrdd i Matthew Jones am ei waith yn paratoi'r adroddiad, a gâi
ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Gorffennaf. |
|
Defnyddio Gwirfoddolwyr fel Partneriaid y Pabi Papur i ddilyn Cofnodion: Darparodd Manon Antoniazzi
amlinelliad o'r trafodaethau a gafwyd yn y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ynghylch
gosodiad pabi y Weeping Window a'r gwaith o ofyn i sefydliadau weithio gyda'r
Cynulliad i ddarparu gwirfoddolwyr i ryngwynebu cwsmeriaid. Roedd Giles
Ballisat (Rheolwr Prosiect Lleoliadau) wrthi'n cwblhau'r materion cyfreithiol o
ran gweithio â gwirfoddolwyr. |
|
Diweddariad ar strategaeth y gyllideb Eitem lafar Cofnodion: Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am
strategaeth y gyllideb o gyfarfod y Comisiwn ar 12 Mehefin. Oherwydd y pwysau ariannol sylweddol ar y
gyllideb a datblygiadau annisgwyl, gwnaeth swyddogion, ynghyd â'r Llywydd a
Suzy Davies AC yn ei rôl fel prif Gomisiynydd ar strategaeth y gyllideb,
ystyried cynigion i reoli costau prosiectau, gan ystyried ymarferoldeb a
risgiau, a sicrhau gwell eglurder mewn perthynas â chapasiti a chyfeiriad. Darparodd y Bwrdd fewnbwn ar y
pwysau yn ystod y flwyddyn, sut y gellid rheoli hynny a'r effaith ar y
strategaeth ar gyfer ariannu yn y dyfodol. |
|
Argymhellion y Tasglu Digidol Eitem Lafar Cofnodion: Rhoddodd Non Gwilym amlinelliad o'r
adroddiad a lansiwyd ar 21 Mehefin gan y Tasglu Digidol, a oedd yn cynnwys
nifer o argymhellion ynghylch sut y cyflwynodd y Cynulliad gymaint o'r
wybodaeth a'r cynnwys a gynhyrchwyd i'n cynulleidfaoedd. Roedd y pwyslais yn adlewyrchu'r ffordd y mae
pobl bellach yn cymryd eu newyddion a’u gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd ac i
raddau helaeth ar lwyfannau digidol. Diolchodd Non i'r sawl a gyfrannodd
at yr adroddiad. Ynhyd â'i thîm, roeddent yn ystyried sut y cafodd y wybodaeth
ei chrynhoi'n effeithiol i adlewyrchu anghenion cynulleidfaoedd y Cynulliad a
sut i gynllunio a gweithredu'r argymhellion. Byddai grid cyfathrebu yn cael ei
ddefnyddio yn holl gyfarfodydd y Bwrdd Rheoli yn y dyfodol. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Mae'r Bwrdd Archwilio a
Sicrwydd Risg wedi trafod y berthynas rhwng y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a'r
Bwrdd Rheoli yn dilyn yr adroddiad archwilio mewnol ar effeithiolrwydd. Bydd y Prif Weithredwr a'r
Cyfarwyddwyr yn rhoi rhagor o ystyriaeth i hyn ac yn cyflwyno'r drafodaeth i'r
Bwrdd Rheoli wedi hynny. |