Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, Ymddiheuriadau a Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Anfonodd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y
Cynulliad ei ymddiheuriadau. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Archwilio Effeithiolrwydd rhannau'r Fframwaith Sicrwydd, drwy drafodaeth yn nodi cryfderau a gwendidau cyffredinol Cofnodion: Croesawodd Claire Clancy Hugh Widdis i’r cyfarfod, a diolchodd iddo am ddod
i herio a chraffu’n annibynnol ar y datganiadau sicrwydd. Fel rhan o’i
swyddogaeth fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, mae cyfranogiad
Hugh wedi ychwanegu sicrwydd pellach i’r Comisiwn ar y broses o ran datganiadau
llywodraethu ac, yn benodol, ar ansawdd datganiadau sicrwydd y Cyfarwyddwyr. Bydd y cyfarfod hwn yn elfen ffurfiol allweddol o’r broses ar gyfer
casglu’r sicrwydd yr oedd ei angen ar Claire, fel y Swyddog Cyfrifyddu, i
lunio’r Datganiad Llywodraethu ar gyfer 2016-17. Y diben oedd, sicrhau bod Datganiadau Sicrwydd drafft y Cyfarwyddiaethau yn
nodi: agweddau a oedd wedi cryfhau ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth; unrhyw bryderon
am y flwyddyn ariannol hon; a meysydd datblygu ar gyfer y flwyddyn ariannol
nesaf. Roedd copïau o’r datganiadau gan y Cyfarwyddwyr, a oedd yn defnyddio
datganiadau sicrwydd unigol o bob maes Gwasanaeth, wedi’u dosbarthu cyn y
cyfarfod. Y canlyniadau allweddol a oedd i’w cyflawni yn y cyfarfod oedd cytuno ar: ·
y camau i gwblhau’r Datganiadau
Sicrwydd; ·
eitemau o arwyddocâd corfforaethol
i’w cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu; a ·
gwelliannau sydd i’w gwneud erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol a thu hwnt Mae nodyn manwl o’r drafodaeth yn Atodiad A. |
|
Trafod Datganiadau Sicrwydd drafft y Cyfarwyddiaethau, gyda phob Cyfarwyddwr yn arwain y drafodaeth drwy grynhoi: ·
Agweddau i’w
Cyfarwyddiaethau sydd wedi cryfhau; ·
Unrhyw
faterion ar gyfer y flwyddyn ariannol hon; a ·
Agweddau i’w datblygu ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf. Cofnodion: Atodiad A Nodyn ar y drafodaeth ar Ddatganiad Llywodraethu 2016-17 Cyflwyniad Nodir presenoldeb yn y cyfarfod yn y cofnodion ffurfiol. Trafod Datganiadau Sicrwydd drafft y Cyfarwyddiaethau Craffodd y Bwrdd ar y Datganiadau Sicrwydd a baratowyd gan y Cyfarwyddwyr,
ar ôl ystyried y datganiadau gan eu Penaethiaid Gwasanaethau perthnasol. Amlinellodd y Cyfarwyddwyr y pwyntiau allweddol yn eu datganiadau. Y Gyfarwyddiaeth Adnoddau Amlygodd Dave Tosh y cynnydd da a wnaed yn erbyn y nodau strategol,
materion a oedd wedi eu nodi yn y flwyddyn flaenorol, ynghyd â’r heriau sydd
o’n blaenau. Cafwyd cynnydd cyffredinol yn y Gyfarwyddiaeth, ond roedd y
llwyddiannau nodedig yn cynnwys: ·
y cyfrifon, a oedd wedi cael
cydnabyddiaeth allanol; ·
yr adroddiad ar Berfformiad
Corfforaethol a’r Adroddiad Blynyddol a oedd yn dangos perfformiad da, cyson yn
gyffredinol; ·
gwobrau allanol a gafwyd, fel llwyddiant
y Cynulliad yng ngwobrau Stonewall; ·
gwobrau sy’n gysylltiedig â
chyflogi, fel gwobr ystyriol o deuluoedd a gwobr Aur Buddsoddwr mewn Pobl,
ynghyd â’r arolwg staff a oedd yn rhoi tystiolaeth bod y sefydliad yn gwrando
ar yr hyn y mae staff yn ei ddweud, ac yn gweithredu. Roedd gwaith cydymffurfio a sicrwydd yr Adran Archwilio, yr Adran Adnoddau
Dynol a’r Adran Cyllid wedi lledaenu ar draws y sefydliad, yn sgîl bod y timau
wedi mynd allan i feysydd Gwasanaeth, drwy waith partneru Adnoddau Dynol, a
chefnogaeth i waith llywodraethu gwybodaeth, er enghraifft, gyda gwell
cyfraddau cwblhau PMDR a gwell rheolaeth ariannol ac ati yn ganlyniad yn hyn o
beth. Arweiniodd adolygiad pwysig o’r polisi risg at well cefnogaeth i reoli
risg. Amlinellodd Dave y materion dan sylw o’r flwyddyn flaenorol, a’r cynnydd a
wnaed mewn cysylltiad â hwy: ·
yr adroddiad ar effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd - a groesawyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor
Cyllid, ac a oedd yn gosod y cyfeiriad i’r sefydliad ganolbwyntio rhagor ar
effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; ·
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
newydd – mae dangosyddion sy’n seiliedig ar wasanaethau wedi cael eu hadolygu
a’u gwella, ac mae’r adroddiad yn fwy defnyddiol ac yn haws i’w ddarllen; ·
rheoli’r Cynllun Ymadael Gwirfoddol
– proses a oedd wedi’i rheoli’n dda ac wedi’i harchwilio, a oedd yn sicrhau’r
nod o alluogi ailstrwythuro ac ailffocysu adnoddau, a gyflawnwyd gyda rhywfaint
o arbedion ariannol; ·
datblygu’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau
newydd - wrth fynd ymlaen roedd angen sicrhau bod adnoddau ar gael i wneud y
gwaith o fewn y Gyfarwyddiaeth, ond hefyd i gefnogi gweddill y sefydliad o ran
ei nodau a’i blaenoriaethau. Meysydd ffocws penodol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth oedd: ·
sicrhau bod dealltwriaeth o
flaenoriaethau sy’n newid ar draws y sefydliad, gyda digon o hyblygrwydd i
ymateb i’r newid ac i allu ei gefnogi; ·
y prosiect i ddisodli’r system
cyllid, a oedd yn mynd yn dda; ·
cam nesaf y strategaeth TGCh wrth
symud i’r ‘cwmwl’ a nodi a lliniaru risgiau, fel diogelwch seiber; ·
yr adolygiad o ddigwyddiadau, a
fyddai’n arwain at newidiadau sylweddol, i wneud y drefn yn fwy effeithiol,
effeithlon ac ymatebol i’r ffordd y mae angen iddi weithio yn y dyfodol; a ·
sicrhau bod y Prif Weithredwr newydd
yn cael sicrwydd ynghylch dulliau llywodraethu’r sefydliad, ac y gallai ei
ddangos o ran y modd y mae’n gweithredu a’r hyn y mae’n ei wneud. Y maes a oedd yn fwyaf heriol oedd blaenoriaethu, pan oedd cynifer o flaenoriaethau
o bwys yn cyd-daro, a sicrhau bod y gallu ar gael i ymateb i ofynion sy’n newid
yn gyflym, ac ychydig o gyfnodau o seibiant. Byddai’n bwysig cael y sicrwydd
bod canlyniadau penderfyniadau a wnaed ar flaenoriaethau wedi cael eu hystyried
yn drylwyr, nid yn unig o fewn y Gyfarwyddiaeth ond hefyd ar draws yr holl
feysydd sy’n gyd-ddibynnol arni. Roedd Hugh Widdis yn cydnabod bod hwn yn sefydliad perfformiad uchel iawn,
ond heriodd y Gyfarwyddiaeth i roi tystiolaeth o ran a oedd staff yn ymgysylltu
â meysydd llywodraethu. Mae’r arolwg staff yn ddull mesur da o arferion
ymgysylltu a ddefnyddir yn rheolaidd, ynghyd â chyfarfodydd staff ffurfiol ac
anffurfiol rheolaidd, a chyfathrebu hefyd drwy nodiadau staff, a chyhoeddi
Dogfennau Awdurdodi Recriwtio, cynlluniau gwasanaeth a chyfarfodydd tîm. Er
enghraifft, roedd yr adolygiad o’r Adran Diogelwch wedi ceisio datblygu
diwylliant ac ymgysylltiad ar gyfer gwella’r Gwasanaeth, drwy wrando ar staff
a’u cynnwys yn y gwaith o ail-ddylunio canlyniadau, gan alluogi aelodau o staff
iau i ddatblygu, a chynnwys person o’r adran Adnoddau Dynol yn y tîm i weithio
gyda nhw ar ddiwylliant a dulliau rheoli llinell. Mae sefydlu diwylliant da
wedi hwyluso’r gwaith o ledaenu gwybodaeth, a gweithgarwch llywodraethu da. Roedd
‘hyrwyddwyr’ yn cefnogi gwaith llywodraethu ar draws y sefydliad, fel ar FiYw,
a gweithredwyd ffyrdd arloesol o godi ymwybyddiaeth, fel y cwisiau llywodraethu
mewn cyfarfodydd tîm. Roedd proses archwilio Swyddfa Archwilio Cymru wedi
arwain at ffi gostyngol oherwydd gwell prosesau mewnol. Gwasanaethau’r Comisiwn Amlinellodd Craig Stephenson y meysydd a oedd wedi’u cryfhau dros y cyfnod.
Y meysydd y mae’r Gyfarwyddiaeth naill ai wedi bod yn arwain arnynt neu wedi
gweithio gydag eraill arnynt oedd: ·
gwell cydweithredu rhwng meysydd
gwasanaeth, ac yn dystiolaeth o hyn yw, mae staff yr Adran Cyfieithu a Chofnodi
yn gweithio gyda thimau integredig i gefnogi Pwyllgorau, sydd wedi arwain at
fwy o ffocws ar beth yw eu hanghenion, a helpu i ddatblygu gwasanaethau pwrpasol
yn y dyfodol i Aelodau unigol; hefyd, gwell gwaith cynllunio a rheoli adnoddau
o ran cyfieithu papurau; ·
parodrwydd staff i gefnogi meysydd
eraill yn y sefydliad lle bu prinder, i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu
bodloni, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd; ·
yr adolygiad o’r drefn yn ymwneud â
Digwyddiadau, lle’r oedd tîm craidd wedi’i ddatblygu o bob maes yr effeithiwyd
arno, ac mae hynny wedi gwella perchenogaeth ym mhob maes prosiect; ·
mae gweithio’n ddwyieithog ar draws
y sefydliad wedi gwella unwaith eto; a ·
defnyddio staff swyddfa’r Gogledd
wrth hwyluso Datblygiad Proffesiynol Parhaus effeithiol ar gyfer staff oddi ar
y safle, gan gyfrannu at well ymgysylltu o ran yr Aelodau a staff, yn ogystal â
chynorthwyo i gyfweld ar gyfer swyddi staff yr Aelodau. Meysydd i’w datblygu ymhellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. ·
datblygu dangosfwrdd gwybodaeth yn y
Tîm Cyfieithu a Chofnodi, a’i ddefnyddio i lywio penderfyniadau ac ail-edrych
ar ddangosyddion perfformiad allweddol,
gan fod rhagor o waith a mwy o alw ar y gwasanaeth ers dechrau’r Pumed
Cynulliad; ·
cyflwyno’r prosiect Cofnod y
Trafodion gyda meddalwedd newydd, a hyfforddiant ar gyfer staff, a nodi sut y
gellir ei ddefnyddio i ymgysylltu ag eraill; ·
newidiadau staff y Swyddfa Breifat i
gefnogi gweithio effeithiol wrth symud ymlaen, ynghyd â newidiadau posibl yn
sgîl penodi Prif Weithredwr newydd; ·
cyflwyno canlyniad yr Adolygiad o’r
drefn o ran Digwyddiadau, i wella profiad y cwsmer; ac ·
y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
newydd, a fydd, ar ôl ei gymeradwyo, yn effeithiol ac yn sensitif wrth i themâu
a nodwyd hyd at 2021 gyflwyno heriau, yn enwedig o ran recriwtio, a gweithio
gyda phob maes gwasanaeth i ymgorffori’r Cynllun. Roedd angen cadw golwg ar faterion capasiti ac effaith newidiadau ar gymhelliant
a lles staff, a gweithredu dulliau cyfathrebu effeithiol mewn timau er mwyn
rhannu gwybodaeth am newidiadau, a’u cefnogi. Roedd dealltwriaeth dda ac roedd
effeithiau timau eraill ar y meysydd gwasanaeth yn cael eu hystyried, ac mae
trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng rheolwyr a Phenaethiaid i dynnu
sylw at yr effeithiau a’r pryderon posibl a allai effeithio ar gapasiti. Gofynnodd Hugh a oedd timau yn deall yr hyn a oedd yn ofynnol ganddynt o
ran gwybodaeth am newidiadau a’r rôl sydd ganddynt o ran llywodraethu.
Cadarnhawyd bod arbenigedd a gwybodaeth ar gael, a bod y sefydliad yn ddigon
bach i gyfleu yr hyn a oedd ei angen. Mae’r sefydliad yn effeithiol wrth
weithio o fewn prosesau, a chaiff templedi a siartiau llif eu defnyddio lle y maent
o gymorth i helpu pobl i wybod sut i weithio. Mae staff yn gwybod pwy i fynd
atynt am gyngor neu gymorth, ac maent yn teimlo y gallant gael help, ac mae’r
sefydliad yn gydweithredol iawn yn y modd y mae’n cynhyrchu canlyniadau, ac yn
cynnwys pobl eraill, yn ôl yr angen, yn ystod y broses. Holodd Hugh hefyd am y ddealltwriaeth rhwng y Bwrdd Taliadau ac
uchelgeisiau a chyfeiriad strategol y Comisiwn, a chafodd ei fodloni ynghylch y
berthynas â’r Cadeirydd newydd ac ynghylch cryfder y Bwrdd. Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad Yn siarad ar ran Adrian Crompton, amlygodd Chris Warner y cyfraniad
sylweddol at nodau strategol y Comisiwn, yn arbennig o ran y trosglwyddo i’r
Pumed Cynulliad, llif y gwaith, a heriau, a gosod yr ochr weithdrefnol yn ei
lle gyda’r Llywydd, ac ail-gyflunio gwasanaethau Busnes y Cynulliad i gefnogi
pwyllgorau ychwanegol. Bu awydd cynyddol ymhlith cadeiryddion pwyllgor am ragor
o ymgysylltu â’r cyhoedd gan y pwyllgorau, ac yn ogystal, cafwyd heriau
allanol, fel Bil Cymru, a galluogi pwyllgorau i ddilyn eu hagendâu eu hunain.
Roedd y Gwasanaethau Cyfreithiol wedi ymuno â’r Gyfarwyddiaeth, gan felly
alluogi ymateb cyflymach i faterion, ac integreiddio gwasanaethau’n well ar
gyfer yr Aelodau. Roedd cyllidebau yn cael eu rheoli’n foddhaol gan staff unigol o fewn y
Gyfarwyddiaeth; roedd y trefniadau rheoli risg yn wahanol ym mhob maes, ond
roedd yn briodol i anghenion y meysydd hynny, ac mae pob un yn darparu her i’r
llall yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol. Nodwyd risgiau’n
ymwneud â phontio rhwng y Bwrdd Taliadau a’r Comisiynydd Safonau, a oedd wedi
ei reoli’n effeithiol, ac mae’r naill a’r llall bellach mewn sefyllfa gref. Cyflwynwyd elfennau llywodraethu newydd: Bwrdd FySenedd, a oedd yn datblygu
prosiectau ar draws y sefydliad; fforwm y Cadeiryddion sy’n cysylltu
strategaeth y Comisiwn â’r gwaith mewn pwyllgorau; a’r Tasglu Newyddion a
Gwybodaeth Ddigidol, sy’n darparu her allanol. Mae gwaith wedi symud ymlaen o ran y blaenoriaethau a nodwyd yn y datganiadau
sicrwydd blaenorol: ·
mae llawer iawn o waith wedi’i wneud
ar gynllunio capasiti gan y meysydd gwasanaeth, gan ddefnyddio’r broses
gynllunio capasiti yn effeithiol i gyfleu anghenion y Gyfarwyddiaeth; ·
mae gwasanaethau dwyieithog wedi gwella
a chefnogwyd y cynnydd gan ddefnyddio’r cynlluniau iaith a chydweithio agos
gyda Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau’r Comisiwn i sicrhau bod gwasanaethau’n cael
eu darparu i’r Aelodau. Roedd nodau’r Comisiwn a Brexit yn faterion pwysig i ymgodymu â hwy, ond er
mwyn parhau i ddarparu rhagoriaeth, cydnabuwyd bod angen i’r blaenoriaethau
angenrheidiol a nodwyd fod yn glir iawn, ac roedd angen bod yn gadarn am y
ffordd y dyrennir adnoddau. Roedd trefniadau llywodraethu yn hanfodol er mwyn
ein galluogi ni i ymateb yn gadarn a chyflym i’r cyd-destun gwleidyddol sy’n
newid, a swm y gwaith sydd o dan sylw. Er enghraifft, cynhaliwyd tri chyfarfod
llywodraethu wythnosol gan yr Adran Gyfathrebu, o ganlyniad i natur y gwaith a
thrafodaethau rheolaidd rhwng Penaethiaid Gwasanaethau am y risgiau, a sut i
nodi gwybodaeth yn eu cylch a’u rheoli. Roedd y Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn darparu fframwaith ar gyfer
sicrwydd, ac yn galluogi’r ymgysylltu a
fu i gael ei fapio, ac i’w effaith gael ei fesur, a sefydlwyd grŵp mewnol
i ddatblygu’r gwaith hwnnw ymhellach. Yr heriau a fyddai’n effeithio ar y gallu i ymateb yn gyflym i’r
blaenoriaethau sy’n newid a’r hyn sydd angen ei fonitro oedd y straen ar staff,
y disgwylir iddynt ddarparu gwaith rhagorol yr holl amser, a bod y staff cywir,
gyda’r sgiliau cywir, gennym. Roedd yn her i gyflawni gwaith arloesol a
lliniaru’r holl risgiau ar yr un pryd, felly mae’n bosibl y bydd angen i’r dull
gweithredu o ran risg gael ei addasu. Meysydd ar gyfer datblygiad pellach Gwahoddodd Claire Clancy y Bwrdd Rheoli i ystyried meysydd y gellid eu
gwella o ran y ffordd y caiff y sefydliad ei redeg a’i lywodraethu. Roedd y broses o ran y Dogfennau Awdurdodi Recriwtio yn drylwyr iawn ac yn
darparu sicrwydd, ond roedd yn cymryd llawer o amser, yn enwedig lle’r oedd
angen cymorth ar aelodau o staff i lenwi’r ffurflen. Lluniwyd y ffurflenni mor
syml ag yr oedd modd, ond gellid rhoi rhagor o ystyriaeth i leihau’r baich hwn. Gallai dulliau cyfathrebu mewnol fod yn well, er enghraifft ynghylch
newidiadau o fewn yr adeiladau a FySenedd; a chydnabuwyd bod negeseuon byr,
cryno yn ddefnyddiol i ddiweddaru gwybodaeth pobl, ac mae cyfarfodydd
anffurfiol o grwpiau bach o staff â’r Prif Weithredwr hefyd wedi bod yn
arbennig o lwyddiannus. Roedd gallu ymateb yn gyflym pan oedd angen cael cymorth allanol yn anodd.
Byddai’r galw yn y dyfodol yn debygol o fod yn fwy heriol, a byddai angen
cynllunio’n gynnar er mwyn cael yr adnoddau cywir. Rhoddodd Hugh Widdis gyngor ei bod yn bwysig ymladd yn frwd am gyllideb ac
adnoddau pan ddeuai’n fwy pwysig blaenoriaethu, a chyda’r galw am adnoddau yn
fwy dwys. Y camau nesaf Roedd Claire yn fodlon nad oedd unrhyw beth wedi’i godi a oedd yn dangos
bylchau o ran llywodraethu da. Y camau i gwblhau’r Datganiadau
Sicrwydd Byddai pob Cyfarwyddwr yn cwblhau ei
ddatganiadau, gan ychwanegu atynt neu’u hailddrafftio yn ôl yr angen, gan
gynnwys rhoi enghreifftiau digonol a sicrhau eu bod yn seiliedig ar
dystiolaeth. Yna byddai Claire Clancy, ynghyd â’r tîm Llywodraethu yn adolygu’r datganiadau
i benderfynu beth a ddylai gael ei gynnwys yn y Datganiad Llywodraethu, gan roi
sylw penodol i feysydd a bwysleisiwyd yng nghyflwyniadau’r Cyfarwyddwyr. Y themâu a oedd wedi’u hamlygu fel rhai arwyddocaol yn gorfforaethol ac
sydd i’w cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu yw: ·
bod yn falch o gynnydd a wnaed o ran
integreiddio o fewn Cyfarwyddiaethau ac ar draws Gwasanaethau; ·
cynnal lefel ac ansawdd y gwaith yn
wyneb yr heriau mawr o’n blaenau; ·
blaenoriaethu effeithiol ac
ystyrlon; ·
datblygu dulliau cynllunio
corfforaethol i fod yn gynaliadwy a soffistigedig, gan ddefnyddio gallu ac
arbenigedd staff mewn gwahanol ffyrdd yn effeithiol; ·
bod yn hyblyg mewn cyfnod o
ansicrwydd a newid; ·
sicrhau bod cydbwysedd rhwng ymdrechu
am ragoriaeth a chydnabod ffactorau straen, a gwneud penderfyniadau doeth
ynghylch sut y caiff hyn ei reoli; ·
cyflawni pob newid, gan gynnwys
gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai’r Datganiad Llywodraethu drafft yn cael ei gwblhau gan Claire cyn ei
dyddiad ymadael. Byddai Kathryn Hughes yn anfon cadarnhad at aelodau’r Bwrdd am
yr hyn yr oedd angen ei wneud o ran terfynau amser. Edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd elfennau o’r Fframwaith Sicrwydd Roedd y Fframwaith Sicrwydd yn fodd strwythuredig o fapio’r prosesau
sicrwydd yn y sefydliad, a defnyddiwyd hwy gan y Penaethiaid Gwasanaeth fel
cymorth cof wrth baratoi eu datganiadau unigol, er mwyn helpu i nodi unrhyw
fylchau, gwendidau neu ddyblygu o ran y sicrwydd. Roedd ei gofnodi yn y ffordd
hon hefyd yn darparu dull o fesur perfformiad yn ôl y Fframwaith. Adolygodd y Bwrdd y Fframwaith a statws lliwiau (Coch Ambr Gwyrdd)
elfennau’r map sicrwydd, ac awgrymodd newidiadau. ·
dylai Asesiadau o’r Effaith ar
Gydraddoldeb gael eu hychwanegu at y fframwaith; ·
dylid disgrifio’r ymarfer her
allanol o dan y drydedd linell amddiffyn mewn termau ehangach nag
"ymarfer"; ·
bu gwelliant mawr yn y broses PMDR,
gyda staff yn cael sgyrsiau o ansawdd, ond dylai barhau i gael ei gadw fel lliw
ambr, oherwydd amseroedd cwblhau yn ystod y cyfnodau prysur. Dylid gweld
symudiad tuag at wyrdd yn y cylch PMDR nesaf; ·
mae rhagor o waith i’w wneud o hyd o
ran llywodraethu rhaglen a llywodraethu prosiectau oherwydd bod diffyg
gwelededd ar lefel gorfforaethol, ond roedd llawer o gynnydd wedi’i wneud yn y
12 mis diwethaf. Dylai’r statws gael ei newid i wyrdd; ac ·
Dylai ‘adolygiadau o gynlluniau
Gwasanaeth’ gael ei newid i ‘cylch cynllunio’. Roedd y Bwrdd
yn fodlon bod statws y rhai a farciwyd yn wyrdd eisoes yn briodol. Crynhoi Diolchwyd i Kathryn Hughes a Gareth Watts am eu gwaith wrth baratoi ar
gyfer y cyfarfod, i Hugh Widdis am ei gyfraniad at y broses o herio, ac i
aelodau’r Bwrdd am eu cyfraniad at y broses o gasglu tystiolaeth. |
|
Camau nesaf Cytuno: ·
Gweithredu i
orffen y Datganiadau Llywodraethiant; ·
Eitemau o arwyddocâd
corfforaethol i’w cynnwys yn y Datganiad Llywodraethiant; ·
Gwelliannau i’w gwneud erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a thu hwnt. Cofnodion: Diolchodd Claire i bawb am y gwaith a oedd wedi’i wneud i baratoi’r
Datganiad Llywodraethu nesaf. Byddai nodyn o’r cyfarfod yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Bwrdd Rheoli, a
byddai’r canlyniadau yn cyfrannu at y Datganiad Llywodraethu. Byddai’r nodyn
hefyd yn amlinellu’r camau sydd i’w cymryd yn awr, a ble y mae angen rhagor o
fewnbwn. |
|
Papur i’w nodi Cofnodion Sesiwn Flynyddol Herio Datganiadau
Llywodraethiant, 22 Chwefror 2016 |