Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Elisabeth Jones (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol), Mark
Neilson (Pennaeth TGCh), Dave Tosh (Cyfarwyddwr Adnoddau y Cynulliad) a Gareth
Watts (Pennaeth Llywodraethu ac Archwilio Dros Dro). Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Nodyn cyfathrebu â staff Cofnodion: Bydd
Adrian Crompton yn drafftio nodyn ar drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen
newyddion. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf - 12 Mai Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 12 Mai yn gofnod
cywir. |
|
Rheoli Absenoldeb Cofnodion: Daeth
Leanne Baker i'r cyfarfod i drafod y cyfraddau absenoldeb yn fanwl gyda'r Bwrdd
Rheoli, beth yw sefyllfa'r Cynulliad o'i gymharu â'r sefyllfa ehangach o ran
absenoldeb ac argymhellion ar reoli absenoldeb. Er bod y lefel yn is nag yn y
sector cyhoeddus, mae absenoldeb oherwydd salwch wedi bod yn cynyddu dros y
blynyddoedd diwethaf, ac iechyd meddwl yw'r prif reswm dros salwch hirdymor.
Cytunodd y Bwrdd ei bod yn bwysig iawn rheoli absenoldeb yn effeithiol a
chefnogi iechyd a llesiant staff. Gallai absenoldeb oherwydd salwch gyfrannu at
ddiffyg morâl ymysg staff ac, o bosibl, effeithio ar safonau gwasanaeth, yn
ogystal â bod yn gostus. Trafododd
y Bwrdd sut y mae polisïau absenoldeb yn cael eu cymhwyso ar draws y sefydliad
a phroblemau canfyddedig. Awgrymwyd y gellid mireinio data rheoli ar gyfer
Penaethiaid ymhellach i'w galluogi i nodi'r materion o bwys a deall pam mae
absenoldebau wedi cynyddu. Ystyriodd y Bwrdd yr argymhellion yn fanwl, gan
gytuno ar y canlynol: ·
byddai
hyfforddiant ychwanegol ar reoli presenoldeb yn fuddiol, ond gan dargedu
meysydd lle ceir problemau, gan sicrhau bod cyfrifoldebau'r unigolyn yn glir,
fel gweithiwr ac fel rheolwr; ·
cynnig
cymorth penodol, drwy godi ymwybyddiaeth, a darparu hyfforddiant, pecyn cymorth
ac arweiniad, i gryfhau gallu rheolwyr i ymdrin ag absenoldebau'n fwy
effeithiol; ·
codi
ymwybyddiaeth o fesurau ataliol, fel mentrau llesiant, gyda chynllun
hyfforddiant peilot posibl i helpu rheolwyr i ddeall materion iechyd meddwl;
ystyried ymestyn cymorth iechyd galwedigaethol presennol; ·
darparu
data mwy manwl i Benaethiaid Gwasanaeth; ·
ystyried
a allwn gefnogi rhai â chyfrifoldebau gofalu yn fwy effeithiol, gan gynnwys
drwy bolisïau presennol ac a oes modd rhoi cymorthdaliadau mewn achosion
eithriadol; ·
ystyried
ffyrdd o annog a chefnogi staff i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu llesiant eu
hunain o safbwynt gwaith; ·
sicrhau
bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i reolwyr ymdrin yn brydlon ac yn sensitif â
materion iechyd – pa un a yw’n ymwneud ag iechyd neu absenoldeb – a sicrhau
cydbwysedd rhwng cefnogi’r unigolyn a disgwyl iddo ef neu hi allu cyflawni ei
waith; ·
defnyddio
FiYw i greu rhybuddion awtomatig ar gyfer cyflogeion a rheolwyr, er enghraifft,
i atgoffa rheolwyr i gadw mewn cysylltiad â staff absennol, cynnal cyfweliadau
dychwelyd i'r gwaith neu gau achosion absenoldeb. Mae'r tîm Adnoddau Dynol yn fwy na pharod i ddod i
gyfarfodydd tîm neu Wasanaeth i drafod hyn i gyd ymhellach. |
|
Seiber-ddiogelwch Cofnodion: Cytunodd y Bwrdd i neilltuo
cyfarfod i drafod rheoli absenoldeb, felly gohiriwyd yr eitemau eraill tan
agenda cyfarfod mis Gorffennaf. |
|
Strategaeth Archif Cofnodion: Cytunodd y Bwrdd i neilltuo
cyfarfod i drafod rheoli absenoldeb, felly gohiriwyd yr eitemau eraill tan
agenda cyfarfod mis Gorffennaf. |
|
Ffurflen Asesu Risg - Newidiadau Uwch-reoli Cofnodion: Cytunodd y Bwrdd i neilltuo
cyfarfod i drafod rheoli absenoldeb, felly gohiriwyd yr eitemau eraill tan
agenda cyfarfod mis Gorffennaf. |
|
Cloi'r cyfarfod |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 14
Gorffennaf, ar ôl y diwrnod cwrdd i ffwrdd ar 8 Gorffennaf i drafod yn fanwl yr
heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Cynulliad a'r Comisiwn ar ddechrau'r Pumed
Cynulliad. |