Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Croesawyd Richard Coombes, a oedd yn bresennol i arsylwi ar y cyfarfod, a Jane Legge, a oedd yn bresennol i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am Risg Corfforaethol.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Nicola Callow (Pennaeth Cyllid), Adrian Crompton (Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad), Elisabeth Jones (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol), Kathryn Potter (Pennaeth Ymchwil), Chris Warner (Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth) a Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol).

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

 

 

2.

Cyfathrebu a staff - Dave Tosh

Cofnodion:

Cytunodd Dave Tosh i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 15 Mehefin

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin yn gofnod cywir.

 

4.

Risg Corfforaethol

Cofnodion:

Roedd y Bwrdd Rheoli wedi cytuno i gynnal trafodaeth estynedig ar reoli risg corfforaethol i gymryd golwg cynhwysfawr ar yr holl risgiau cyfredol ac i benderfynu pa risgiau sy’n parhau a pha risgiau y gellir eu cau, ynghyd â chymryd rhagolwg ar risgiau posibl a all godi hyd at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt.

Cytunodd y Bwrdd ar nifer o newidiadau i’r gofrestr:

·                Y dylai’r sgôr gweddilliol ar gyfer y risg o ran capasiti corfforaethol gael ei godi i ‘uchel’, gan y byddai pwysau ar gapasiti ynghyd â chyfyngiadau ariannol yn parhau i dyfu;

·                Pontio i’r Pumed Cynulliad - Adrian Crompton a Sulafa Thomas i adolygu risg ac ystyried elfennau y tu hwnt i’n rheolaeth;

·                Anna Daniel a Kathryn Hughes i addasu’r risg Newid Cyfansoddiadol;

·                Anna Daniel a Non Gwilym i ystyried y risg o ran canfyddiadau negyddol o’r Cynulliad;

·                Diogelwch ffisegol - risg i’w addasu i gynnwys amddiffyn rhag ymosodiadau terfysgol.

Cafodd y risg o ran diogelwch gwybodaeth ei dynnu oddi ar y gofrestr gorfforaethol a newid i fod yn risg i wasanaeth, a chytunodd Dave Tosh i ymchwilio i’r ymholiad a godwyd ynghylch diogelu data.

Cytunodd y Bwrdd i dynnu nifer o risgiau oddi ar y gofrestr a oedd naill ai wedi’u datrys neu lle oedd gwaith wedi’i wneud i liniaru’r risgiau hyn.

 

5.

Absenoldeb Rhiant a Rennir

Cofnodion:

Daeth Leanne Baker ac Elin Hughes i’r cyfarfod i gyflwyno’r polisi newydd ar gyfer absenoldeb rhiant a rennir, yn dilyn deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ar 5 Ebrill 2015.

Gofynnwyd i’r Bwrdd Rheoli drafod faint o arian sydd ar gael i dalu am absenoldeb rhiant a rennir o dan y polisi ac a ddylid gwella’r polisi hwn, yn unol â pholisïau presennol y Cynulliad ar gyfer teuluoedd a gofalwyr. Cadarnhawyd y byddai’r un egwyddorion yn berthnasol i fabwysiadu.

Cytunodd y Bwrdd ar yr angen i wella’r polisi a’i bod yn bwysig hyrwyddo’r polisi oherwydd ei fod yn adlewyrchu sefyllfa’r Cynulliad fel cyflogwr enghreifftiol.  Hefyd, diolchwyd i’r adran AD am yr ymdrechion i symleiddio darn cymhleth o ddeddfwriaeth i’r staff.

Byddai’r adran AD yn cynnal sesiynau galw heibio i’r staff ac yn cwrdd â phenaethiaid gwasanaeth i hyrwyddo ac egluro’r polisi i sicrhau bod staff yn gwybod am yr holl bolisïau perthnasol. Bydd yr adran AD yn adolygu effaith y polisi ar ôl y 6 mis cyntaf.

 

6.

Arolwg Staff 2015

Cofnodion:

Ymunodd Rhodri Wyn Jones â Leanne ac Elin i drafod canlyniadau’r arolwg staff ar gyfer 2015 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Roedd y gyfradd ymateb wedi bod yn uchel, gyda chanlyniadau da iawn mewn perthynas â’r mynegai ymgysylltu, gan arwain at y sgôr uchaf yng Nghymru o gymharu â’r sefydliadau yr ydym yn cael ein meincnodi yn eu herbyn. Ar ben hynny, cafwyd rhai sylwadau cadarnhaol. Yn gyffredinol, mae’r Cynulliad yn cymharu’n ffafriol â’r wybodaeth meincnodi.

Roedd yna feysydd a oedd yn dangos bod angen gwaith pellach, gan gynnwys pwysau ar gydbwysedd gwaith/bywyd. Byddai’r Bwrdd Rheoli yn ystyried yr adroddiad eto yn y digwyddiad ‘cwrdd i ffwrdd’ ar 13 Gorffennaf.

Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am y gwaith a wnaed i gynhyrchu’r arolwg a dadansoddi’r canlyniadau.

 

7.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Rhoddodd Bedwyr Jones y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am lansio’r system deleffoni newydd, a oedd wedi cael adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr.

Byddai’r Bwrdd Rheoli yn cwrdd nesaf ar 13 Gorffennaf 2015.