Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Estynnwyd croeso i Sulafa Thomas, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno dangosfwrdd i’r Comisiwn ar bontio i’r Pumed Cynulliad.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Watts (Pennaeth Dros Dro Llywodraethu ac Archwilio) ac ymunodd Adrian Crompton (Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad) â’r cyfarfod yn ystod yr eitem ar Gynllunio Gwasanaethau.

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

2.

Cyfathrebu a staff - Siân Wilkins

Cofnodion:

Cytunodd Siân Wilkins i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 1 Mehefin

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin yn gofnod cywir.

 

4.

Dangosfwrdd Pontio i'r Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Yn eu cyfarfod ym mis Ionawr roedd y Bwrdd Rheoli wedi cytuno i dderbyn adroddiadau ar ffurf dangosfwrdd ar baratoi ar gyfer pontio i’r Pumed Cynulliad i alluogi’r Bwrdd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, adolygu adnoddau a’u targedu yn y ffordd orau i sicrhau darpariaeth lwyddiannus o ran cyfrifoldebau’r Pumed Cynulliad. Roedd cynnydd yn cael ei reoli gan y Penaethiaid Gwasanaethau gyda chyfrifoldeb gan arweinwyr meysydd i gydlynu’r meysydd unigol sef cyn y diddymiad, cyfnod y diddymiad, yr etholiad, croesawu ac ymsefydlu Aelodau, busnes cynnar a chyngor gweithdrefnol, yr agoriad Brenhinol a pharatoadau gweithredol.

Cyflwynodd Sulafa Thomas, a oedd yn cydlynu’r paratoadau pontio i’r Pumed Cynulliad, y dangosfwrdd a gofynnodd i’r Bwrdd ystyried gofynion adnoddau yn ystod y cyfnod pontio, gan ystyried anghenion ‘busnes arferol’; lle’r oedd capasiti dros ben y gellid ei symud i gefnogi’r prosiect; a sut i gyfateb sgiliau ag anghenion cyflenwi yn briodol. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn bwysig ystyried a oedd angen ailddyrannu adnoddau dros dro i leddfu’r pwysau mwy, a hynny yn ystod y cyfnodau cyn y diddymiad ac ar ôl yr etholiad fel ei gilydd.

Camau gweithredu:

·                Y Bwrdd Rheoli i fod yn glir ynghylch yr hyn yw’r canlyniadau allweddol ar gyfer pob maes wrth iddynt ddatblygu;

·                Y Penaethiaid Gwasanaethau i asesu lle byddai capasiti dros ben, fel y gall y Bwrdd Rheoli benderfynu pa adnoddau fyddai ar gael a sut i gyfateb angen â medr, er mwyn sicrhau bod popeth sydd ei angen yn cael ei gyflawni ar bob cam o’r broses bontio; a

·                nodyn y Bwrdd Rheoli i’r staff i nodi y dylai staff gysylltu â’u Pennaeth Gwasanaeth i ddechrau er mwyn mynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith o bontio i’r Pumed Cynulliad.

 

5.

Cynllunio Gwasanaethau

Cofnodion:

Fel rhan o’r cylch cynllunio blynyddol, adolygodd y Bwrdd Rheoli y cynlluniau Gwasanaeth ar gyfer pob maes gwasanaeth er mwyn deall yr ystod o weithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad. Canmolodd Dave Tosh yr awduron am eu gwaith a gofynnodd i’r Bwrdd ystyried sut roedd y broses cynllunio gwasanaethau yn gweithio a thrafod:

·               a oedd yna risiau amlwg oedd yn sefyll allan?

·               a oedd y cynlluniau yn adlewyrchu’r broses cynllunio capasiti a’r canlyniadau?

·               pa mor dda y cafodd dibyniaethau eu disgrifio ac a oeddent wedi’u hadlewyrchu yng nghynlluniau ei gilydd?

·               beth oedd y cyfleoedd, y blaengareddau a’r arbedion oedd yn deillio ohonynt?

Barn gyffredinol y Bwrdd oedd bod y cynlluniau yn effeithiol o ran trosi nodau’r Comisiwn yn offeryn ar gyfer rheoli pob maes gwasanaeth, ond roedd cyfle i’w gwella ymhellach i’w gwneud yn fwy defnyddiol ar gyfer y sefydliad ehangach.

Cytunodd y Bwrdd fod angen mwy o eglurder o ran dibyniaethau, eu bod yn cysylltu’n glir ym mhob cynllun gwasanaeth cysylltiedig ac yn cael eu nodi’n gynnar yn y cylch cynllunio. Awgrymwyd y dylid cynnal ymarfer at y diben, yn debyg i’r hyn a wnaed ar gynllunio capasiti.

Camau Gweithredu: byddai canlyniadau’r drafodaeth yn cael eu casglu a’u rhannu gyda’r Bwrdd Rheoli ar ôl y cyfarfod ac yn cael eu cynnwys yn y canllawiau ar gyfer datblygu cynlluniau gwasanaeth.

 

6.

Adroddiadau Rheoli Ariannol - Ebrill a Mai 2015

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd yr adroddiadau rheoli gan ddweud bod y dangosfyrddau yn ddefnyddiol.

 

6.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Dywedodd Bedwyr Jones wrth y Bwrdd y byddai’r system ffôn newydd yn fyw ar 6 Gorffennaf.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 6 Gorffennaf.