Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 - Papur 1

·         Papur diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2

·         Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad: Strategaeth buddsoddi– Papur 2a

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd dros dro Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.

1.2        Nododd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd y newidiadau staffio dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn, a chroesawyd Huw Gapper a Dan Collier.

1.3        Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod 21 Tachwedd fel cofnod cywir, yn amodol ar welliant i baragraff 3.13 i atgyfnerthu bod y Bwrdd wedi ystyried cymariaethau â Seneddau eraill y DU wrth wneud ei benderfyniad ar lefelau cyflog staff cymorth.

1.4        Nododd y Bwrdd fod Deddf Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac y bydd enw'r sefydliad yn newid ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru / Welsh Parliament. Nododd y Bwrdd y bydd ei enw wedi newid i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi hynny.

1.5        Nododd y Bwrdd y bydd Cadeirydd y Bwrdd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ddydd Llun 20 Ionawr.

1.6        Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i gynnal adolygiad anffurfiol o'r llawlyfr i Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i ystyried papur yn nodi ei ddull o ymdrin â'r adolygiad hwn yn ei gyfarfod nesaf.

1.7        Cytunodd y Bwrdd i gynnig diwygiad i'r Weithdrefn Ddisgyblu a Chwyno ar gyfer Staff Cymorth i egluro'r seiliau ar gyfer apelio. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori'n ffurfiol ag Aelodau a Staff Cymorth fel rhan o'i lythyr diweddaru ar ôl y cyfarfod.

1.8        Cytunodd y Bwrdd y dylid atgoffa'r Aelodau fod ganddynt ddyletswydd gofal, fel cyflogwyr, dros eu Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i annog Aelodau i ofyn am gyngor gan adran ddiogelwch Comisiwn y Cynulliad ar gadw'n ddiogel bob amser.

1.9        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar Strategaeth Buddsoddi Bwrdd Pensiwn yr Aelodau.

1.10     Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.

1.11     Cytunodd y Bwrdd i geisio trefnu cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr ar gyfer yr un diwrnod â chyfarfod nesaf y Bwrdd.

Camau gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd;

-     Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r Rhaglen Waith i gynyddu amseriad yr eitem ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ar gyfer cyfarfod 2 Ebrill. 

-     Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y cyfarfod ym mis Chwefror.

-     Yr uned Cymorth Busnes i’r Aelodau i baratoi papur yn nodi cwmpas yr adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.

-     Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.

-      

-      

 

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Materion heb eu datrys ar y penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

·         Cyngor ychwanegol ar Wariant ar Lety Preswyl, Costau Swyddfa a Theithio - Papur 3

·         Cyngor ychwanegol ar Gymorth Staffio i Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol - Papur 4

·         Cyngor ychwanegol ar daliadau Aelodau, Cymorth Ychwanegol ac Aelodau'n gadael eu swydd - Papur 5

Cofnodion:

2.1     Croesawodd y Cadeirydd Sulafa Thomas i’r cyfarfod.

2.2     Trafododd y Bwrdd gynigion ar gyfer RAE, costau Swyddfa, teithio, cymorth staffio ac Aelodau'n gadael y swydd.

2.3     Trafododd y Bwrdd drosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a ariennir gan y Comisiwn i'r Penderfyniad, a chytunodd ei bod yn rhy gynnar i wneud hynny nawr. Cytunwyd i gymryd sylw o’r ffaith y byddai'r trosglwyddiad yn digwydd o ddechrau'r Chweched Cynulliad.

2.4     Ystyriodd y Bwrdd y Penderfyniad drafft fesul llinell, a chytunwyd i ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r drafft terfynol ar gyfer ymgynghori yn eich gylch drwy e-bost.

2.5     Ystyriodd y Bwrdd y ddogfen ymgynghori ddrafft, a chytunwyd i ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r fersiwn derfynol drwy e-bost.

2.6     Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu Diverse Cymru i gynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y Penderfyniad i lywio'r fersiwn derfynol.

 

 

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad

·         Trosolwg o'r Penderfyniad drafft - Papur 6

·         Atodiad A - Penderfyniad Llawn

·         Atodiad B - Dogfen ymgynghori ddrafft

·         Cyhoeddi ymgynghoriad - Papur 7

Cofnodion:

3.1     Ystyriodd y Bwrdd opsiynau ar gyfer sut y mae'n dymuno cyhoeddi ei ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft.

3.2     Ystyriodd y Bwrdd y negeseuon allweddol ac amserlen yr ymgynghoriad ar y Penderfyniad, a chytunodd arnynt.

Cam gweithredu:

-     Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r Penderfyniad drafft a chyhoeddi'r dogfennau atodol ar gyfer ymgynghori yn eu cylch yn unol â'r strategaeth gyfathrebu y cytunwyd arni gan y Bwrdd.