Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.15 - 10.15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2        Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Michael Redhouse a Ronnie Alexander; roedd y ddau wedi darparu sylwadau ar bapurau cyn y cyfarfod.

1.3        Croesawodd y Cadeirydd Ruth Hatton i'w chyfarfod cyntaf fel Dirprwy Glerc.

1.4        Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019 yn amodol ar fân newid.

1.5        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 1 yn y Cynulliad ar hyn o bryd.

1.6        Cytunodd y Bwrdd ar newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn Disgyblu a Chwyno yn dilyn ymgynghoriad â'r Aelodau a'r staff cymorth. Cytunodd y Bwrdd i roi'r gweithdrefnau ar waith cyn gynted â phosibl.

1.7        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gaffael larymau diogelwch personol ar gyfer yr Aelodau a chytunodd i ystyried diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf ar ôl i'r broses gaffael ddod i ben.

1.8        Cytunodd y Bwrdd i'r ysgrifenyddiaeth barhau i atgoffa Aelodau Annibynnol a staff cymorth am y ffyrdd y gallant ymgysylltu â'r Bwrdd a rhannu eu barn ag ef.

1.9        Nododd y Bwrdd ddiweddariad mewn perthynas ag adnewyddu yswiriant Arferion Cyflogaeth. Cytunodd y Bwrdd i gael diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf yn dilyn trafodaethau â Chomisiwn y Cynulliad.

1.10     Nododd y Bwrdd y newidiadau i'r Grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad dros yr wythnosau diwethaf a chytunodd i fonitro newidiadau a allai gael effaith ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

 

(10.15 - 11.00)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Reolau'r Cynllun Pensiwn

Cofnodion:

2.1        Trafododd y Bwrdd y cyngor cyfreithiol diweddar ar oblygiadau gwahaniaethu posibl ar sail oed yn deillio o nifer o ddarpariaethau yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

2.2        Gan mai'r Bwrdd sy'n gyfrifol am osod rheolau'r Cynllun, cytunodd i wneud rhai newidiadau i'r rheolau gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.

2.3        Cytunodd y Bwrdd hefyd i rannu ei gynigion â'r Bwrdd Pensiynau cyn ymgynghori â rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn yn ddiweddarach yn yr haf.

 

(11.15 - 12.00)

3.

Eitem i'w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau

Cofnodion:

3.1        Trafododd y Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau staffio yn dilyn gweithredu newidiadau a oedd yn cynnwys cael gwared ar y cap 111 awr ar gyflogi staff parhaol, cyllidebu costau cyflogau yn ôl y costau gwirioneddol, a newidiadau i'r opsiynau trosglwyddo sydd ar gael i Aelodau.

3.2        Cytunodd y Bwrdd i gynnal adolygiad pellach ym mis Tachwedd a mis Ionawr i ganiatáu i'r newidiadau gael mwy o amser i gael effaith. Cytunodd y Bwrdd i gynnal ymgynghoriad pellach os oes angen unrhyw newid o ganlyniad i'r ystyriaethau hyn yn y dyfodol. 

 

 

(12.45 - 13.45)

4.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth o faterion sy'n codi o dan ran dau

Cofnodion:

4.1     Cafodd y Bwrdd ei ail drafodaeth o'r materion sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad ynghylch y cymorth a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef penodau 7 ac 8 o'r Penderfyniad.

4.2     Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

(13.45 - 14.45)

5.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trafodaeth gyntaf o ran tri

Cofnodion:

5.1 The Board undertook it first consideration of the issues which fall under part three of the review focusing on salaries of Members and office holders leaving office and additional support.

5.2 The Board agreed to return to these issues at its next meeting.

(15.00 - 16.00)

6.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau

Cofnodion:

6.1 Trafododd a chytunodd y Bwrdd ei adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i Aelodau, yn amodol ar fân newidiadau.

6.2 Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi'r adroddiad yn fuan.