Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2.      Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i John Chick ar ei benodiad diweddar yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i John am ei waith, ei arweiniad a'i gefnogaeth i'r Bwrdd.

1.3.      Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i Rebecca Hardwicke ar ei phenodiad i'r rôl y mae John yn ei gadael.

1.4.      Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.

1.5.      Datganodd y Cadeirydd fuddiant mewn perthynas ag eitem dau, gan ei bod yn Gyfarwyddwr anweithredol yng nghwmni Thompson's Solicitors.

 

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.

 

(10.15 - 12.15)

2.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran un

Cofnodion:

2.1.      Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n canolbwyntio ar wariant ar lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa'r Aelodau, sy'n dod o dan ran un o'i adolygiad.

2.2.      Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y materion a godwyd yn ei gyfarfod nesaf.

(13.00 - 13.30)

3.

Eitem i'w phenderfynu: Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Cofnodion:

3.1.      Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer prisio'r terfyn uchaf ar gostau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

3.2.      Cytunodd y Bwrdd i fonitro'r sefyllfa.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses o brisio'r terfyn uchaf ar gostau yn y flwyddyn newydd.

4.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

4.1.      Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywydd a goblygiadau'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i'r Bwrdd.

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i ymateb i'r Llywydd.