Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.00)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1      Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2      Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.

1.3      Nododd y Bwrdd y datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth ynghylch ei waith ar ddatblygu polisi urddas a pharch. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau perthnasol ar waith ar gyfer staff cymorth unwaith y derbyniwyd y polisïau ar gyfer Aelodau er mwyn sicrhau bod y ddau bolisi yn gyson.

1.4      Cytunodd y Bwrdd i adolygu sut mae'n ymgysylltu â'r Grwpiau Cynrychioliadol.

1.5      Trafododd y Bwrdd y dyddiadau cyfarfod dros dro a'r flaenraglen waith ddrafft hyd at fis Gorffennaf 2020 a chytunodd i edrych ar y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(10.00 - 11.00)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2018-19

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2018-19

2.1.    Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law ar y cynigion i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant yn unol â ffigurau 2017 dros dro ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru.

2.2.    Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

2.3.    Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar y cynigion i:

-    gynyddu lwfans costau swyddfa 5 y cant yn unol â chyfradd CPI ar gyfer mis Medi 2017 ac i fynd i'r afael â'r galw am gostau cynyddol y disgwylir i Aelodau eu hariannu o'u cyllidebau;

-    cynnig lwfans heb ei gapio a fydd yn cael ei gyfyngu i'r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i Aelodau weithredu argymhellion diogelwch.

2.4.    Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r lwfans costau swyddfa 5 y cant ar gyfer 2018-19 a'r darpariaethau newydd ar gyfer gweithredu argymhellion diogelwch.

 

Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer 2018-19

2.5.    Trafododd y Bwrdd yr ymateb i'r ymgynghoriad ar ei benderfyniad y dylid cynnal y lwfans presennol ar gyfer Aelodau y tu allan i'r ardal o £9,200 y flwyddyn/£775 bob mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn a'r uchafswm o gostau rhent i Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.

2.6.    Cytunodd y Bwrdd i gynnal y darpariaethau o fewn y Penderfyniad ar gyfer y lwfans ond i ystyried y materion a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Camau gweithredu:

Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ystod darnau perthnasol o waith.

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-    gyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig;

-    ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2018-19.  

(11.15 - 12.15)

3.

Eitem i'w thrafod: Yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a'r cymhellion dros sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad

Cofnodion:

3.1.    Nododd y Bwrdd, yn sgil gweithredu diwydiannol diweddar a'r tywydd gwael, nid oedd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi gallu dod i'r cyfarfod i drafod yr adroddiad. 

3.2.    Trafododd y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ei gyfarfod ym mis Mai i drafod camau nesaf yr adolygiad.

 

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i'w gyfarfod ym mis Mai.

 

 

(13.15 - 14.15)

4.

Eitem i'w thrafod: Adolygu strategaeth y Bwrdd flwyddyn yn ddiweddarach

Cofnodion:

4.1.    Adolygodd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn erbyn y pedair blaenoriaeth strategol y cytunwyd arnynt yn ei adroddiad ym mis Ionawr 2017.

 

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o'i benderfyniad yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2017-18.

 

 

(14.30 - 16.30)

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1.    Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma ar gyfer adolygu cymorth staffio i Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen eu hystyried ymhellach a pha faterion y gellid mynd i'r afael â nhw yn gynt.

5.2.    Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y materion canlynol ar unwaith:

-    cyllidebu Lwfans Staffio ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;

-    cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar eu Lwfans Staffio;

-    dileu'r cap o 111 awr ar gyfer staff cymorth a gyflogir yn barhaol;

-    cynyddu'r hyblygrwydd o drosglwyddo arian rhwng cyllidebau.

5.3.    Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai dydd Gwener 11 Mai 2018.

5.4.    Cytunodd y Bwrdd i edrych eto ar faterion eraill a nodwyd yn ystod yr adolygiad yn ei gyfarfod ym mis Mai.

 

Camau i'w cymryd

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-    gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-    paratoi crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.