Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.00)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2         Croesawodd y Bwrdd John Chick, a oedd wedi dychwelyd i'r Cynulliad, i'r cyfarfod. Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Carys Rees am eu gwaith ar ran y Bwrdd yn ystod absenoldeb John.

1.3         Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 23 Tachwedd 2017 yn amodol ar fân newidiadau.

1.4         Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn bod y ddeddfwriaeth i newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru hefyd yn cynnwys darpariaeth i newid enw'r Bwrdd i “Bwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru”.

1.5         Nododd y Bwrdd na fyddai ymddiswyddiad Nathan Gill a’r penderfyniad a wnaed na fyddai ei olynydd, Mandy Jones AC, yn aelod o'r grŵp UKIP yn y Cynulliad yn cael unrhyw effaith ar y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

1.6         Cytunodd y Bwrdd y dylai aelodaeth Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad gynnwys un aelod o staff cymorth o bob plaid wleidyddol ac un cynrychiolydd o bob undeb llafur.

1.7         Nododd y Bwrdd ei ddyddiadau cyfarfod a'r dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y Grwpiau Cynrychiolwyr.

Camau gweithredu:

Y Bwrdd i:

-     ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn amlinellu pam yr hoffai newid ei enw;

-     ysgrifennu at Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn cadarnhau’r aelodaeth.

(10.00 - 10.30)

2.

Eitem i'w thrafod: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

2.1         Ystyriodd y Bwrdd y dystiolaeth yr oedd wedi'i chlywed hyd yn hyn mewn perthynas â chylch gorchwyl yr adolygiad.

2.2         Cytunodd y Bwrdd i drefnu rhagor o gyfweliadau â’r Aelodau a’r staff cymorth, os oeddynt ar gael, i sicrhau bod ei sampl yn gynrychiadol o'r ddau grŵp.

Camau gweithredu:

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:

-     gysylltu â swyddfeydd yr Aelodau i bennu dyddiadau cyfweld cyfleus;

-     paratoi crynodeb thematig o'r holl dystiolaeth a ddaeth i law hyd yn hyn er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf.

(10.45 - 11.30)

3.

Eitem i'w thrafod: Adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a’r cymhellion ar gyfer sefyll i fod yn Aelod Cynulliad

Cofnodion:

3.1         Croesawodd y Cadeirydd y Dr Huw Pritchard, a oedd yn cynrychioli Canolfan Llywodraethiant Cymru, i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dr Diana Stribu.

3.2         Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Dr Pritchard i roi trosolwg o'r adroddiad drafft i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau o eglurhad a godwyd gan y Bwrdd. Cytunodd y Dr Pritchard i ymateb i bwyntiau pellach o eglurhad trwy’r e-bost.

3.3         Cytunodd y Bwrdd i ystyried sut y byddai'n ymateb i'r argymhelliad yn yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

3.4         Cytunodd y Dr Pritchard a'r Bwrdd i drafod y strategaeth gyhoeddi a dosbarthu yn nes ymlaen.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i fod yn bwynt cyswllt rhwng y Bwrdd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag unrhyw bwyntiau o eglurhad a godwyd.

(11.30 - 13.30)

4.

Adolygiad o’r gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Digwyddiad ymgysylltu â’r Staff Cymorth

Cofnodion:

4.1         Ystyriodd y Bwrdd y materion a godwyd yn ystod ei ddigwyddiad ymgysylltu â’r staff cymorth.

(13.45 – 15.45)

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2018-19

Cofnodion:

Cyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19

5.1         Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.3 y cant yng nghyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19 yn unol â ffigurau’r Arolwg Blynyddol o Oriau a Enillion (ASHE) dros dro ar gyfer 2017 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017

5.2         Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE er mwyn bod yn gyson â’r adolygiad o daliadau y llynedd.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

5.3         Ystyriodd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa yr Aelodau, gan gynnwys lleoliad, chwyddiant, offer arbenigol a pholisïau Comisiwn y Cynulliad.

5.4          Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer mis Medi 2017, sef 3 y cant, fel cyfradd sylfaenol i gynyddu'r lwfans. Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion â’r cynnydd y llynedd.

5.5         Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn sgil penderfyniad y Comisiwn i beidio ag ariannu system gweithwyr achos yr Aelodau yn ganolog a gofynion estynedig y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 5 y cant yn y lwfans ar gyfer 2018-19.

5.6         Hefyd, ystyriodd y Bwrdd lwfans y gall yr Aelodau ei gael i dalu costau rhesymol unrhyw welliannau diogelwch a chytunwyd i gynnig bod lwfans diderfyn yn cael ei greu at y diben hwn. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r Aelodau gydymffurfio â meini prawf penodol er mwyn defnyddio’r lwfans.

Gwariant ar Lety Preswyl

5.7         Ystyriodd y Bwrdd y Gwariant Llety Preswyl ar gyfer 2018-19 a phenderfynwyd parhau â’r lwfans cyfredol ar gyfer Aelodau'r ardal allanol o £9,200 y flwyddyn/£775 fesul mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn, ac uchafswm y costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.

Ymgynghoriad

5.8         Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ymgynghoriad ar yr holl gynigion uchod. 2 Mawrth 2018 yw dyddiad cau’r ymgynghoriad.

5.9         Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

Camau gweithredu:

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:

-     gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-     paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.

(15.45 - 16.30)

6.

Eitem i'w thrafod: Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Creu Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Cofnodion:

6.1         Trafododd y Bwrdd adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: ‘Senedd sy'n gweithio i Gymru’, a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am fwriadau’r Comisiwn o ran bwrw ymlaen â’r gwaith.

6.2         Cytunodd y Bwrdd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac unrhyw benderfyniad dilynol i gyflwyno deddfwriaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyn ystyried y goblygiadau ar ei waith.

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

7.1         Nododd y Bwrdd:

-             yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch ei ymchwiliad i’r Tanwariant sy’n Deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau;

-             adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: ‘Senedd sy'n gweithio i Gymru’