Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda D - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30 - 14.45) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth
2017. 1.3 Gwnaeth y Bwrdd: ·
nodi ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a'i dyddiadau cyfarfodydd hyd
at fis Mawrth 2018; ·
gohirio penderfyniad i ganslo ei gyfarfod ym mis Hydref 2017 i'w gyfarfod
ym mis Gorffennaf; ·
cytuno i drafod ei ddyddiadau cyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019 y tu allan
i'r cyfarfod ac i gytuno ar y dyddiadau hynny yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis
Gorffennaf. 1.4 Trafododd y bwrdd ganlyniadau'r arolwg boddhad Aelodau’r Cynulliad a
Staff Cymorth blynyddol cyntaf a nodi y gallai rhai o'r canlyniadau fod yn
berthnasol i'w waith ar effeithiolrwydd ac egwyddorion sylfaenol y
Penderfyniad. 1.5 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar yr ymarfer
recriwtio diweddar i benodi aelod newydd o'r Bwrdd. 1.6 Hysbysodd y Cadeirydd y Bwrdd y byddai'n cyfarfod â Chadeirydd y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i drafod unrhyw faterion a allai
fod yn berthnasol i waith y Bwrdd yn y dyfodol o ran datblygu Penderfyniad sy'n
addas ar gyfer y Chweched Cynulliad. 1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod datblygu diffiniad ar gyfer rôl Aelodau’r
Cynulliad a'u staff cymorth i'w gynnwys yn y Penderfyniad. 1.8 Cytunodd y Bwrdd i ystyried y broses y mae Cymorth Busnes i'r Aelodau
yn ei defnyddio i weinyddu hawliadau yn y cyfarfod nesaf. |
|
(14.45 – 15.30) |
Eitem i'w thrafod: Cymorth i bleidiau gwleidyddol Cofnodion: 2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar gymorth i bleidiau gwleidyddol a chytunodd
i drafod y darpariaethau yn ymwneud â chymorth i bleidiau gwleidyddol ac
Aelodau unigol yn llawn yn ddiweddarach, ond ar hyn o bryd: ·
bydd cyflog Arweinwyr Pleidiau yn lleihau a chynyddu yn unol â sawl Aelod
Cynulliad sydd eu grŵp ac nid sawl aelod sydd yn y Blaid Wleidyddol; ·
caiff Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol eu dyrannu i Aelodau annibynnol; ·
Gall Aelodau’r Cynulliad annibynnol drosglwyddo cyllid i grwpiau
gwleidyddol yn y Cynulliad. |
|
(15.30 - 16.00) |
Eitem i'w thrafod: Strategaeth Ymgysylltu'r Bwrdd Taliadau Cofnodion: 3.1 Trafododd y Bwrdd ei strategaeth ymgysylltu a chytunodd i: ·
ystyried yr opsiynau i ddatblygu ei microwefan annibynnol ei hun a
phresenoldeb yn y cyfryngau cymdeithas; a ·
datblygu strategaeth ymgysylltu pwrpasol ar gyfer pob darn o waith. Camau gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i: ·
baratoi enghraifft o sut gallai microwefan y Bwrdd edrych; a ·
nodi ffyrdd o fynd ati i ymgysylltu a chyfathrebu ar gyfer gwaith sydd ar y
gweill. |