Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 09.45)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd i’r cyfarfod.

 

1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Tachwedd 2016 yn amodol ar fân newidiadau.

 

1.3 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017.

 

1.4 Cytunodd y Bwrdd ar ddyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2018.

 

1.5 Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfodydd gyda'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a'r Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad.

 

1.6 Dywedodd y Fonesig Jane Roberts fod ganddi fuddiant yn eitem 3 gan ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.  

(09.45 - 11.00)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu paramedrau'r adolygiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad, yn enwedig y broses o dendro ymchwil i'r maes.

 

2.2 Cytunodd y Bwrdd i ofyn am grynodeb o'r gwaith ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud i nodi rhwystrau a chymhellion i sefyll i fod yn Aelod Cynulliad.

 

2.3 Cytunodd y Bwrdd i ddechrau proses gaffael i nodi'r cymhellion a'r rhwystrau ar gyfer unrhyw un sydd am sefyll i fod yn Aelod Cynulliad. Roeddent hefyd yn cytuno ar y pwyntiau a ganlyn:

·         dylai'r broses ganolbwyntio ar y pecyn tâl, sydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd;

·         dylid anfon tendrau'n uniongyrchol at nifer o ddarpar ymgeiswyr a'u cyhoeddi ar wefannau'r Cynulliad;

·         y broses ymgeisio a chyfweld; a

·         byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus roi methodoleg fanwl i'r Bwrdd o'i adolygiad arfaethedig a rhoi trosolwg o'r gwaith y mae wedi'i wneud ar adeg briodol o'r adolygiad.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o waith ymchwil blaenorol a wnaed yn y maes.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r dogfennau tendro fel y cytunwyd gan y Bwrdd a chyhoeddi yn unol â hynny.

·         Cytunodd y Bwrdd y byddai Jane yn arwain ar y mater hwn. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'n ystyried ac yn cytuno ar y canlynol y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd: y ddogfen dendro derfynol, y rhestr o wahoddedigion i anfon y tendr atynt, y rhestr fer o bobl i'w gwahodd i gyfweliad, a'r ymgeisydd llwyddiannus.

(11.00 - 12.00)

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adolygiad a'i egwyddorion sylfaenol ynghyd ag effeithiolrwydd y Penderfyniad

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Bwrdd y byddai paramedrau'r adolygiad o egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad yn canolbwyntio ar y pecyn ariannol sydd ar gael i'r Aelodau ar hyn o bryd.

 

3.2 Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi holiaduron wedi'u teilwra i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i ofyn eu barn am egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad. Bydd pob holiadur yn canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r Penderfyniad sy'n gymwys i'w rôl, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau newydd a gyflwynwyd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

3.3 Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei hysbysu drwy ei gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd â'r ddau grŵp o gynrychiolwyr.

 

3.4 Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer y darn hwn o waith.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi holiadur terfynol i'r Bwrdd ei ystyried y tu allan i'w gyfarfodydd ffurfiol.

·         Ar ôl cael sêl bendith y Bwrdd, dylai'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu'r holiaduron.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i roi crynodeb o'r ymatebion yn y cyfarfod nesaf.  

(13.00 - 15.00)

4.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18

4.1 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.1% yng nghyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 yn unol â chanolrif enillion yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2016 yng Nghymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016.

 

4.2 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE eleni er mwyn bod yn gyson ag adolygiad cyflogau y llynedd. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd i barhau i fonitro pa mor briodol yw'r dull hwn o fynegeio.

 

4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r gwaith a wnaeth y Bwrdd blaenorol ar y pwnc hwn.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Costau swyddfa ar gyfer 2017-18

4.4 Trafododd y Bwrdd y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar gostau swyddfa'r Aelodau, gan gynnwys lleoliad, offer arbenigol ac ati.

 

4.5 Nododd y Bwrdd fod y cynnydd diwethaf yn y costau swyddfa yn seiliedig ar gyfraddau'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI). Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r un egwyddor eto eleni. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ailystyried pan fydd y Bwrdd yn cynnal ei adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad.

 

4.6 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 1.2% yn y lwfans costau swyddfa yn unol ag amcangyfrif CPI hyd at fis Tachwedd 2016.

 

4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Y Gwariant ar Lety Preswyl

4.8 Trafododd y Bwrdd y ffactorau sy'n effeithio ar y Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhagor o wybodaeth cyn ymgynghori ar gyfradd y gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol a bydd yn dychwelyd at y mater maes o law.

 

4.9 Trafododd y Bwrdd ddau lwfans atodol i Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol ar gyfer 2017-18. Cytunodd y Bwrdd i gynnal y symiau blynyddol presennol a ganlyn:

·         £882 ar gyfer atgyweiriadau hanfodol yn achos yr Aelodau hynny sydd â hawl i log ar forgais; a

·         £1,440 ar gyfer Aelodau gyda dibynyddion sy'n byw fel mater o drefn gyda hwy yn eu heiddo yng Nghaerdydd.

 

4.10 Cytunodd y Bwrdd i ailystyried y materion hyn pan fydd yn cynnal ei adolygiad i effeithiolrwydd y Penderfyniad.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am y gost o rentu ym Mae Caerdydd ac i ddosbarthu'r casgliadau i'r Bwrdd er mwyn cyhoeddi unrhyw ymgynghoriad cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd pe byddai'n dymuno newid y lwfansau preswyl ar gyfer 2017-18 y cytunir ar hyn yn electronig y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Bwrdd Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru/Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol:'Ail-lunio'r Senedd – sut i ethol Cynulliad Cenedlaethol mwy effeithiol'.