Agenda a Chofnodion
Lleoliad: By teleconference
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd ·
Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 - Papur 1 ·
Papur
diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2 Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Dros Dro aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dymunodd y Bwrdd yn dda iddi yn
ystod ei habsenoldeb. Dewiswyd Jane Roberts fel Cadeirydd Dros Dro ar gyfer y
cyfarfod hwn. 1.3
Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. 1.4
Roedd
y Bwrdd yn dymuno diolch i swyddogion am drefnu cyfarfod heddiw dan yr
amgylchiadau presennol. 1.5
Cytunodd
y Bwrdd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror yn gofnod cywir. 1.6
Nododd
y Bwrdd ohebiaeth y Comisiwn yn ymwneud â chostau offer swyddfa a ariennir yn
ganolog. Cytunodd y Bwrdd i drafod paper arall ar y mater yn ei gyfarfod nesaf. 1.7
Nododd
y Bwrdd fod y Comisiwn yn adolygu rheolau yn ymwneud â defnyddio adnoddau'r
Cynulliad a nododd y bydd Clerc y Cynulliad yn cysylltu â Chadeirydd y Bwrdd
ynglŷn â’r diwygiadau a gynigiwyd. 1.8
Nododd
y Bwrdd fod y Cynulliad wedi canslo ei gynlluniau i gynnal wythnos o fusnes yng
ngogledd-ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd y gallai ei
benderfyniad blaenorol, y dylai’r nifer gyfyngedig o deithiau dwyffordd gan
staff cymorth a amlinellwyd yn y Penderfyniad gael eu defnyddio rhwng
etholaeth/rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fod yn
gymwys o hyd pe bai'r wythnos yn cael ei haildrefnu. 1.9
Cytunodd
y Bwrdd i drafod y mater hwn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf. 1.10 Trafododd y Bwrdd wybodaeth a roddwyd am
Covid-19. Mewn ymateb i newidiadau a wnaed gan y Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y
byddai'n rhesymol darparu lwfans deiliad swydd ychwanegol ar gyfer rôl y Darpar
Lywydd Dros Dro, ond nid rôl Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfod Llawn. 1.11 Gwnaeth y Bwrdd nodi a chytuno ar ei
flaenraglen waith ar gyfer gweddill ei dymor. 1.12 Nododd y Bwrdd y gallai fod yn ofynnol
iddo gynnal ei gyfarfod ym mis Mai drwy ddulliau rhithwir. Cytunodd y Bwrdd
hefyd i adolygu yn nes at y dyddiad a ddylid bwrw ymlaen â’r cyfarfodydd Grŵp Cynrychiolwyr a drefnwyd. Camau
gweithredu: -
Yr
Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod mis Chwefror. -
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi papur ar gostau offer swyddfa a ariennir yn ganolog. -
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi opsiynau ar gyfer diogelwch gwybodaeth i'r Bwrdd. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cefnogi Aelodau o ran Covid-19 ·
Papur
trosolwg – Papur 3 Cofnodion: 1.1
Trafododd
y Bwrdd ei opsiynau mewn perthynas â chefnogi’r Aelodau wrth ymateb i argyfwng
Covid-19. 1.2
Cytunodd
y Bwrdd i beidio â darparu costau swyddfa ychwanegol ar hyn o bryd, ond i
adolygu'r sefyllfa'n gyson. 1.3
Cytunodd
y Bwrdd i barhau â’r status quo ar gyfer y ddarpariaeth staffio am y tro. 1.4
Cytunodd
y Bwrdd i drafod sefydlu lwfans canolog i ariannu lwfans gweithio gartref ar
gyfer staff cymorth, yn seiliedig ar gyfraddau Cyllid a Thollau EM. Nododd y
Bwrdd mai’r Aelod dan sylw fyddai’n penderfynu ei ddarparu i’w staff ai peidio. 1.5
Trafododd
y Bwrdd pa ddarpariaethau pellach y gallai eu rhoi ar waith i gefnogi
trefniadau gweithio hyblyg. Cytunodd y Bwrdd i sicrhau cymaint o hyblygrwydd â
phosibl lle y bo modd, ac y byddai'n rhoi ystod o opsiynau ar waith i helpu’r
Aelodau i gefnogi eu staff i weithio'n hyblyg lle y bo angen. Cam
gweithredu: -
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi llythyr at yr Aelodau a’r staff cymorth yn amlinellu
penderfyniadau’r Bwrdd. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Newid i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth ·
Ymatebion
i'r ymgynghoriad – Papur 4 Cofnodion: 1.1
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad. Penderfynodd y Bwrdd
weithredu’r newidiadau i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth.
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r newidiadau ddod i rym ar unwaith. Cam gweithredu: -
Yr
ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gweithdrefnau a’u cyflwyno i’r Aelodau a’r staff
cymorth. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ·
Crynodeb
o'r ymatebion i'r ymgynghoriad - Papur 5 ·
Amlinelliad
o'r adroddiad drafft i'w adolygu - Papur 6 ·
Cyhoeddi
adolygiad - Papur 7 Cofnodion: 1.1
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'w ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar
gyfer y Chweched Senedd. Nododd y Bwrdd ei ddiolch i’r rhai a gyflwynodd ymatebion.
Trafododd y Bwrdd yr holl ymatebion a’r opsiynau’n fanwl. 1.2
Nododd
y Bwrdd ei fwriad, pe bai’r amgylchiadau’n caniatáu, i gyhoeddi’r Penderfyniad
ar gyfer y Chweched Senedd erbyn diwedd mis Mai 2020. Cam
gweithredu: -
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a’r
adroddiad cysylltiedig er mwyn i’r Bwrdd gytuno arno. |