Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1      Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2      Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.

1.3      Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl y Grŵp Llywodraethiant ar gyfer Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod Comisiwn y Cynulliad wedi enwebu ei Gyfarwyddwr Cyllid i gynrychioli'r Comisiwn ar y Bwrdd, ochr yn ochr â Phennaeth Pensiynau'r Comisiwn ac aelod o'r Bwrdd Taliadau.

1.4      Nododd y Bwrdd fod swydd wag o hyd ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn sgil ymddiswyddiad Caroline Jones AC o'r rôl. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad, gan ofyn i'r Comisiwn enwebu cynrychiolydd i'r Bwrdd Pensiynau cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau dilyniant yn yr aelodaeth.

1.5      Nododd y Bwrdd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion perthnasol a godwyd yn yr ymchwiliad hwn yn ei flaenraglen waith lle bo'n briodol.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.

 

(10.15 - 12.30)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cymorth Staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad

Cofnodion:

2.1.     Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad a chytunodd ar yr eitemau a ganlyn:

-        pa faterion y byddai'n eu gohirio tan ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;

-        pa faterion y byddai'n ymgynghori arnynt fel rhan o'r adolygiad hwn;

-        y camau nesaf yn dilyn ei ymgynghoriad ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

Materion i'w hystyried o fewn ffrydiau gwaith eraill y Bwrdd

2.2.     Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd ar nifer o faterion, a chytunodd y byddai rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i drafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Ymgynghori ar y materion sy'n weddill

2.3.     Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd ynghylch y darpariaethau canlynol:

-        cyllid ar gyfer cyflogi aelodau o'r teulu;

-        amodau a thelerau staff cymorth;

-        cyflogau staff cymorth.

2.4.     Cytunodd y Bwrdd ei fod wedi cael digon o dystiolaeth ar y materion hyn i ymgynghori ar nifer o gynigion i ddiwygio'r darpariaethau a amlinellir isod:

-        cael gwared ar y cyllid i Aelodau'r Cynulliad gyflogi aelodau o'r teulu a phartneriaid o'r diddymiad nesaf;

-        cael gwared ar y cyllid ar gyfer unrhyw aelodau teulu newydd a benodwyd (neu a ddyrchafwyd neu y newidiwyd eu contract cyfredol) ar ôl 24 Hydref 2018;

-        addasu cyflogau'r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion;

-        cyflwyno diwrnodau braint ar gyfer staff cymorth;

-        cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth.

2.5.     Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.

Camau gweithredu

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.

Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

2.6.     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd y dylid gweithredu'r newidiadau a ganlyn:

-        dileu'r ddarpariaeth yn y Penderfyniad ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau newydd o arian o Lwfans Staffio'r Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Hydref. O ran yr Aelodau hynny sy'n trosglwyddo arian o'u Lwfans Staffio i'w Lwfansau Pleidiau Gwleidyddol ar hyn o bryd, rhoddir caniatâd iddynt barhau i drosglwyddo'r un swm bob blwyddyn tan ddiwedd y Pumed Cynulliad;

-        cyllidebu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ôl pwyntiau talu gwirioneddol o 1 Ebrill 2019;

-        cyhoeddi gwariant pob Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Ebrill 2019.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        hysbysu'r Aelodau a'r staff cymorth o'r newidiadau sydd i ddod;

-        paratoi Penderfyniad diwygiedig ar gyfer ei gyhoeddi.

(13.15 - 15.15)

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad

Cofnodion:

3.1.     Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith ar gyfer adolygu ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, a fyddai'n bodloni ei amcan o ran cyhoeddi'r Penderfyniad ym mis Mai 2020, blwyddyn cyn yr etholiad nesaf. Cytunodd y Bwrdd ar y flaenraglen waith hon.

3.2.     Nododd y Bwrdd y gallai agenda diwygio etholiadol y Cynulliad effeithio ar ei raglen waith, a chytunodd i fonitro datblygiad y gwaith hwn.

3.3.     Cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth bellach ynglŷn â'r rhaglen waith gydag Aelodau a staff cymorth, gan gynnwys manylion ynghylch sut y gallant rannu eu sylwadau â'r Bwrdd, maes o law.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        monitro datblygiad agenda diwygio etholiadol y Cynulliad;

-        rhannu gwybodaeth bellach gydag Aelodau a staff cymorth pan fo'n briodol.

(15.30 - 16.15)

4.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno

Cofnodion:

4.1.     Trafododd y Bwrdd yr adborth a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i ymgynghori at ddibenion newid y gweithdrefnau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y Cynulliad.

4.2.     Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.

4.3.     Cytunodd y Bwrdd i adolygu Cod Ymddygiad y staff cymorth unwaith y bydd yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn cael ei gwblhau, a hynny er mwyn sicrhau dull cyson lle bo angen.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Comisiwn Etholiadol ynghylch yr adroddiad a ganlyn gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, "Dadansoddi Amrywiaeth:  Rhwystrau a Chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

5.2 Nododd y Bwrdd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Llywydd, sef "Creu Senedd i Gymru" a'r adroddiad ategol sy'n amlinellu canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar.

5.3 Nododd y Bwrdd yr adroddiad a ganlyn gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, "Lleisiau Newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru".