1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. Ar ran y Bwrdd,
llongyfarchodd y Cadeirydd Ronnie Alexander ar ei benodiad i'r Bwrdd a'i
groesawu i'w gyfarfod Bwrdd cyntaf.
1.2 Croesawodd
y Cadeirydd Lleu Williams, a benodwyd yn Glerc newydd i'r Bwrdd Taliadau.
Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Dan Collier am ei waith i’r
Bwrdd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad diweddar.
1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2017.
1.4 Nododd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd
at fis Mawrth 2019. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r dyddiadau ar gyfer
cyfarfodydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2017.
1.5
Cytunodd y Bwrdd i estyn gwahoddiad ffurfiol i Gadeirydd y Panel Arbenigol ar
Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i'w gyfarfod ym mis Hydref 2017 i drafod y
materion a allai ymwneud â gwaith y Bwrdd yn y dyfodol wrth ddatblygu
Penderfyniad sy'n addas i'r Chweched Cynulliad.
1.6
Dywedodd yr Ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd y byddai papur yn amlinellu'r broses
a ddefnyddir gan Gymorth Busnes yr Aelodau wrth weinyddu hawliadau yn cael ei
ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.
1.7
Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer adolygu diogelwch swyddfeydd a chartrefi'r
Aelodau a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth atgoffa Aelodau am y gwasanaethau sydd
ar gael iddynt.
1.8
Anfonodd y Bwrdd gydymdeimladau at deulu Sam Gould, uwch-gynghorydd Nathan Gill
AC, ac at deulu Ben Davies, dirprwy bennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, yn eu
profedigaeth.
1.9 Nododd
y Bwrdd y cwestiwn a ofynnwyd yn ystod Cwestiynau'r Cynulliad ar 5 Gorffennaf a
chytunodd i ystyried rôl interniaethau cyflogedig gydag Aelodau'r Cynulliad fel
rhan o'i adolygiad ehangach o gymorth i Aelodau
Camau
gweithredu:
Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn
·
cyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai;
·
gwahodd
Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gyfarfod y
Bwrdd ym mis Hydref 2017;
·
paratoi
papur sy'n amlinellu'r broses y mae Cymorth Busnes yr Aelodau yn ei defnyddio
wrth weinyddu hawliadau; ac
·
atgoffa
Aelodau o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt o ran adolygiadau diogelwch.