Agenda a Chofnodion
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 – 9:15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016. |
|
(9:15 – 9:45) |
Y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyried rhaglen waith y Bwrdd ·
Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Rhaglen Waith – Papur 2 Cofnodion: 2.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn
amlinellu'r gwaith y bwriadwyd ei wneud a'r penderfyniad allweddol y byddai
angen ei wneud yn fuan. Trafododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn/tymor yr haf 2016. Y Bil Menter 2.2
Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r
trafodaethau ynghylch y Bil Menter. 2.3
Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi
cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, yn sgil sicrwydd gan y Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus na fyddai'r Llywodraeth yn ceisio arfer y pŵer hwn. 2.4
Mynegodd y Bwrdd bryderon
ynglŷn â'r egwyddor nad oedd y Bil yn adlewyrchu rôl y Bwrdd Taliadau na'i
gylch gwaith yng Nghymru. Cam gweithredu: ·
Cytunodd y Bwrdd i
fonitro'r trafodaethau ynghylch sut y bydd y trefniadau o dan y Bil yn
gweithio'n ymarferol ac i ofyn am ddiweddariad gan y Llywydd ynglŷn ag
unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Trysorlys. Pensiynau 2.5
Nododd y Bwrdd fod Trysorlys Ei
Mawrhydi yn ystyried y cynllun pensiwn terfynol ac mai'r disgwyl oedd i'r
cynllun gael ei gymeradwyo'n ffurfiol dros yr wythnosau nesaf. 2.6
Yn dilyn trafodaethau rhwng Michael
Redhouse ac Adran Actiwari’r Llywodraeth, cytunodd y Bwrdd i roi'r cyngor i'r
Adran Actiwari y dylai'r cynllun pensiwn newydd fod â chyfradd cyfraniadau o
10.5 y cant ar gyfer Aelodau a 15.6 y cant ar gyfer Comisiwn y Cynulliad.
Byddai'r cynllun terfynol i'w gymeradwyo gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn
adlewyrchu hyn. 2.7
Nododd y Bwrdd fod y broses o
recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer Bwrdd Pensiynau newydd Cynllun Pensiwn
Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddi. Er mai Michael Redhouse
oedd cynrychiolydd y Bwrdd ar y panel recriwtio, nododd y Bwrdd fod angen iddo
benodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ffurfiol yn dilyn yr ymarfer recriwtio. Disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2.8
Nododd y Bwrdd yr ymatebion i ymgynghoriad y
tîm Cymorth Busnes i Aelodau ar ddisgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad, a fyddai'n eu helpu i wella'r broses recriwtio ac adlewyrchu'r
amrywiaeth o swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn y Grwpiau ac yn
swyddfeydd yr Aelodau. 2.9
Cytunodd y Bwrdd fod y templed
safonol presennol ar gyfer disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad yn addas i'r diben. Diweddariad ar faterion ariannol y
Bwrdd a'r rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 2.10
Nododd y Bwrdd y diweddariad
ariannol ar gyfer ei waith a'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad. 2.11
Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiadau chwe-misol o'i gyllideb a'r
gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Cam gweithredu: ·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol yr Aelodau. Cynigion am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ym mis Medi 2.12
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n cynnal
diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn er mwyn
ymgysylltu ag aelodau o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad sy'n gweithio mewn
swyddfeydd etholaeth yn y gogledd. 2.13 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r diwrnod cwrdd i ffwrdd gynnwys gwahodd staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sesiwn galw heibio ac ymweliadau unigol â swyddfeydd etholaethol er mwyn clywed yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
(9:45 – 10:45) |
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad: Ystyried ymatebion i ymgynghoriad 2016-17 Cofnodion: 3.1
Trafododd y Bwrdd y gwelliannau a
ganlyn i Benderfyniad drafft 2016-17 a'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Cytunodd y Bwrdd i gymryd y camau a ganlyn: ·
cynyddu cyflogau Staff Cymorth
Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17 1. 1 y cant yn unol â ffigurau arfaethedig
2015 ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru (i'w weithredu ar 1 Ebrill); ·
cadw'r terfyn uchaf ar gyfer hawlio
lwfans llety preswyl i Aelodau o'r ardal allanol, sef £735 y mis ar gyfer
taliadau rhent ar hyn o bryd, gosod lwfans gofalwyr o £1,440 y flwyddyn a chadw
cyfradd y lwfans atodol ar gyfer llety preswyl sy'n ymwneud â gwaith atgyweirio
hanfodol ar eiddo dan forgais, sef 10 y cant o lwfans blynyddol yr ardal
allanol ar hyn o bryd; ·
cynyddu'r lwfans costau swyddfa 1 y
cant (i'w weithredu ar 1 Ebrill); ·
cynyddu cyfanswm y lwfans cymorth i
bleidiau i £909,900. Er mwyn symleiddio
pethau, y ffigur a nodwyd yw £910,000. 3.2
Cytunodd y Bwrdd i drafod
darpariaethau yn y Penderfyniad ynghylch Gwariant ar Lety Preswyl ar ôl ethol
Aelodau newydd y Cynulliad pe bai unrhyw broblemau'n codi. 3.3 Cytunodd y Bwrdd i ymateb i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion ar
gyfer cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17 gan Grŵp y
Ceidwadwyr Cymreig a Grŵp Llafur Cymru.
Cytunodd y Bwrdd i ystyried y materion a godwyd ynghylch cyflogau staff
cymorth Aelodau'r Cynulliad fel rhan o'i waith cynllunio strategol ym mis
Medi. 3.4 Mewn perthynas â'r lwfans costau swyddfa, nododd y Bwrdd fod y Mynegai
Prisiau Defnyddwyr ar 0.3 y cant ar hyn o bryd a chaiff y ffigurau nesaf eu
rhyddhau ar 22 Mawrth. Bydd y ffigurau
chwyddiant ar gyfer mis Ebrill 2016 yn cael eu cyhoeddi ganol mis Mai. 3.5 Nododd y Bwrdd y rhagolygon
diweddaraf gan Fanc Lloegr (Chwefror 2016) o ran y Mynegai Prisiau Defnyddwyr
ar gyfer chwyddiant yn chwarter cyntaf 2016, sef amcangyfrif o 0.4 y cant yn
cynyddu i 1.2 y cant erbyn chwarter cyntaf 2017. 3.6 Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y
Penderfyniad er mwyn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 1 y cant yn y lwfans
costau swyddfa. 3.7 Nododd y Bwrdd fod y Penderfyniad cyfredol yn cyfeirio at 'Arweinydd yr
Wrthblaid' ond nid yw'n nodi bod angen tri Aelod ar blaid er mwyn iddo fod yn
grŵp a chael cyflog. Cytunodd y
Bwrdd y byddai newid y geiriad a'r Rheol Sefydlog berthnasol i adlewyrchu hyn
yn gwneud y ddarpariaeth yn y Penderfyniad yn gliriach. |
|
(11:00 – 11:30) |
Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Darpariaeth ar gyfer Cynghorwr Ariannol Annibynnol Cofnodion: 4.1
Trafododd y Bwrdd bapur yn amlinellu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth
Aelodau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Donna Davies, Pennaeth Pensiynau Comisiwn
y Cynulliad. 4.2
Nododd y Bwrdd fod Cynghorwr Ariannol Annibynnol
ynghlwm wrth y Cynllun a'i fod yn cael ei dalu gan y Comisiwn ar hyn o bryd am
y gwasanaethau a ddarperir a chostau disgwyliedig y gwasanaeth yn y dyfodol, o
ystyried na fyddai'n gweithredu ar y sail honno mwyach. 4.3
Bu'r Bwrdd yn trafod adborth staff
cymorth Aelodau'r Cynulliad ar y gwasanaeth hwn ac awgrymiadau ar gyfer
gwella'r cymorth a roddir iddynt o ran deall eu cynllun pensiwn. 4.4
Nododd y Bwrdd y byddai Comisiwn y Cynulliad yn cynnal adolygiad o Gynllun
Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn fuan. 4.5
Cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi terfyn
ar gontract y Cynghorwr Ariannol Annibynnol presennol. Yn lle hynny, cytunodd y Bwrdd mai Tîm Pensiynau Comisiwn y Cynulliad
ddylai fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad ynglŷn â'u
pensiynau. 4.6
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r tîm Pensiynau ysgrifennu at aelodau a'u staff er
mwyn egluro'r newid a chadarnhau'r trefniadau newydd. Cam gweithredu: ·
Y Pennaeth Pensiynau i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd wrth weithredu'r ddarpariaeth newydd
ynghylch cyngor ar bensiynau i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. |
|
(11:30 – 12:30) |
Eitem ar gyfer penderfyniad: Pensiynau'r Aelodau: Ystyried rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r Cynllun Pensiwn Cofnodion: 5.1
Bu'r Bwrdd yn trafod papur a oedd yn nodi'n glir y rolau a'r cyfrifoldebau
mewn perthynas â'r Cynllun Pensiynau newydd fel sail ar gyfer Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng y Bwrdd Pensiynau a'r Bwrdd Taliadau. 5.2
Nododd y Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
a chadarnhaodd ei fod yn fodlon ar sut y câi rôl y Bwrdd Taliadau ei chyflawni
mewn egwyddor. 5.3
Cytunodd y Bwrdd y dylid gwahodd sylwadau gan Adran Actiwari’r Llywodraeth
a'r Bwrdd Pensiynau newydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r rolau a'r
cyfrifoldebau. 5.4
Nododd y Bwrdd hefyd y byddai'r
Bwrdd yn cael papur ar brisiadau'r terfyn uchaf ar gostau i'w ystyried yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf. |
|
(13:30 – 14:15) |
Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynigion ar gyfer Egwyddorion Llywodraethu a chanllawiau ar gynnal busnes y Bwrdd Taliadau Cofnodion: 6.1
Trafododd y Bwrdd ddiwygiadau i'r
ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a Chanllawiau ar Gynnal Busnes drafft 6.2
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod
cynnwys y ddogfen hon ar y diwrnod cwrdd i ffwrdd. 6.3
Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y
disgrifiadau o rôl ac egwyddorion y Bwrdd yn y ddogfen ddrafft i'w gwneud yn
gliriach. 6.4
Cytunodd y Bwrdd y dylai fabwysiadu
cynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad gan ei fod yn enghraifft o
arfer da. Dylai'r ddogfen ddrafft
adlewyrchu hyn. |
|
(14:15 – 14:45) |
Trosolwg o adnoddau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad drwy'r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: 7.1
Bu'r Bwrdd yn trafod adnodd drafft a fyddai'n caniatáu iddo ddeall yn well
sut y mae'r lwfansau amrywiol yn cydblethu ac yn cefnogi Aelodau
Cynulliad. 7.2
Nododd y Bwrdd, lle y bo'n bosibl, y
byddai'r adnodd yn nodi'n glir y gyllideb ar gyfer pob lwfans neu wasanaeth a
ddarperir, o Lwfans yr Aelodau ac o gronfeydd canolog Comisiwn y Cynulliad, er
mwyn adlewyrchu'r pecyn cyffredinol o gymorth i Aelodau Cynulliad yn well. 7.3
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod
yr adnodd ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15:00 – 16:00) |
Ymgysylltu Aelodau yn y Pumed Cynulliad Cofnodion: 8.1
Cytunodd y Bwrdd i gynnal sesiwn galw heibio yn y Senedd ddydd Mawrth 5
Gorffennaf. 8.2
Bu'r Bwrdd yn trafod negeseuon allweddol i atgyfnerthu ei ymagwedd at ei
rôl a'i gylch gwaith. Y nod oedd sicrhau
cysondeb y negeseuon a gaiff eu cyfleu. 8.3
Cytunodd y Bwrdd fod y dull hwn yn galluogi'r Bwrdd i ymateb i'r materion
allweddol a nodwyd yn Adroddiad Etifeddiaeth y Bwrdd blaenorol ac sy'n cael eu
hystyried hefyd yng nghyd-destun y ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a
Chanllawiau Ategol arfaethedig. 8.4
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n siarad
ag Aelodau Cynulliad yn gynnar yn y Pumed Cynulliad er mwyn clywed am eu barn
a'u profiadau o ran effeithiolrwydd y lwfans dirwyn i ben. 8.5
Gofynnodd y Bwrdd am i'r adroddiad archwilio ar lwfansau Aelodau gael ei
gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol. 8.6
Cyfarwyddodd y Bwrdd yr ysgrifenyddiaeth i gydweithio â grwpiau'r pleidiau
er mwyn trefnu slotiau yng nghyfarfodydd y pleidiau cyn gynted ag y bo hynny'n
ymarferol bosibl. Awgrymodd y Cadeirydd
y byddai'n ddymunol ac yn angenrheidiol i aelodau'r Bwrdd fod ar gael i
gefnogi'r Cadeirydd neu gynrychioli'r Bwrdd eu hunain yn y cyfarfodydd
hynny. 8.7
Gofynnodd y Bwrdd am nodyn briffio gan yr ysgrifenyddiaeth i lywio'r
trafodaethau yng nghyfarfodydd y pleidiau.
|