Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd
fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Gareth Watts ac Ann-Marie Harkin. 1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion sy'n codi Cofnodion: ARAC (04-20)
Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin 2020 ARAC (04-20)
Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd 2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15
Mehefin. 2.2
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, dywedodd
Arwyn Jones na fu fawr o sylw yn y wasg ynglŷn â chyhoeddi Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Ychwanegodd Manon Antoniazzi fod y cyfarfod
llawn hybrid wedi cael llawer o sylw ar ITV Cymru a oedd yn gadarnhaol dros
ben. 2.3
Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies i'r cyfarfod a
fyddai'n diweddaru'r Pwyllgor ar gam gweithredu 6.4 yn ymwneud â diwygio'r
Senedd, yn benodol ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer y Comisiwn Etholiadol
yn y dyfodol. Esboniodd Siwan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud am ei bwriad i
gyflwyno deddfwriaeth bellach yr oedd ei hangen er mwyn gwneud y Comisiwn
Etholiadol yn atebol i'r Senedd ac er mwyn iddo gael ei ariannu'n uniongyrchol
o Gronfa Gyfunol Cymru; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn cael ei roi ar waith mewn
pryd ar gyfer etholiadau 2021. Ychwanegodd y cytunwyd ar gytundeb dros dro lle
byddai Llywodraeth Cymru’n gwneud taliadau i’r Comisiwn Etholiadol. 2.4
Disgrifiodd Siwan y broses ar gyfer cyflawni hyn a
oedd yn cynnwys gwneud newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd (i'w gwneud yr
wythnos ganlynol) i sefydlu Pwyllgor y Llywydd (i'w benodi yn nhymor yr hydref)
a nodi prosesau cyllid a rheolaeth ariannol newydd. Ychwanegodd y byddai angen
i gytundebau rhyngsefydliadol gael eu nodi erbyn mis Medi o ran sut y byddai’r
Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu ac ar gyfer ei atebolrwydd i’r Senedd
(trwy Bwyllgor y Llywydd), Tŷ'r Cyffredin (trwy
Bwyllgor y Llefarydd) a Senedd yr Alban. 2.5
Atgoffodd Nia Morgan y
Pwyllgor am wrthwynebiad cryf y Comisiwn i'r cynigion cychwynnol ar gyfer
ariannu’r Comisiwn Etholiadol drwy Gomisiwn y Senedd yn ystod y cyfnod interim
hwn. Byddai’r cytundeb newydd hwn yn dileu’r goblygiadau o ran y trefniadau ar
gyfer cyllideb Comisiwn y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn ganlyniad da,
a nododd ymdrechion y Comisiwn i barhau â hyn o fewn amserlenni tyn trwy gynnal
deialog parhaus a gofynnodd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd maes o
law. 2.6
Fel mater sy’n codi, gofynnodd y Cadeirydd am
gynnal trafodaeth ar sut y gallai'r Pwyllgor chwarae rhan adeiladol wrth reoli
risg gorfforaethol y Comisiwn ar Newid Cyfansoddiadol yn barhaus. Dywedodd ei
fod wedi cael adroddiad wedi'i ddiweddaru, er gwybodaeth iddo y tu allan i'r
pwyllgor yr oedd wedi ei anfon ymlaen at Ann ac Aled er gwybodaeth. Rhoddodd
Siwan sicrwydd i'r Pwyllgor ynghylch y modd y mae’r Comisiwn yn rheoli’r risg
sy’n gysylltiedig â Newid Cyfansoddiadol, gan gynnwys trwy gynllunio senarios
ac ymgysylltu â Chomisiwn y Senedd a'r Pwyllgor Busnes, yn ogystal â thrwy
sianeli gwleidyddol, gan gynnwys grŵp
rhyng-seneddol. 2.7 Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann ynghylch effaith bosibl swm y ddeddfwriaeth funud olaf yn ymwneud â Brexit a'i heffaith ar graffu ar raglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth Cymru, rhoddodd Siwan sicrwydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Adolygu Fframwaith Sicrwydd y Comisiwn yn ei gyfanrwydd Cofnodion: ARAC (04-20) Papur 3 - Y wybodaeth
ddiweddaraf am y Fframwaith Sicrwydd ARAC (04-20) Papur 3 Atodiad A - Map
Sicrwydd y Comisiwn ARAC (04-20) Papur 3 Atodiad B - ARAC yn
rhoi sylw i'r Fframwaith Sicrwydd - Mehefin 19 i Mehefin 20 3.1
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Dave Tosh i
gyflwyno'r eitem hon. Sicrhaodd Dave y Pwyllgor fod y Fframwaith Sicrwydd yn
parhau i fod yn rhan greiddiol o’r sefydliad a'i fod yn cael ei ddefnyddio ar
lefel weithredol ac ar lefel y gyfarwyddiaeth a'i fod yn parhau i fod yn addas
at y diben. Ychwanegodd fod y Cyfarwyddwyr wedi craffu ar fap sicrwydd
cyffredinol y Comisiwn a’i ddiweddaru yn gynharach yn y flwyddyn, a llywiwyd
hyn gan dystiolaeth trwy fapiau sicrwydd unigol a gynhyrchwyd gan bob Pennaeth
Gwasanaeth. 3.2
Dywedodd Dave y byddai'r tîm Llywodraethu a
Sicrwydd yn adolygu'r broses yn ogystal â fformat y mapiau sicrwydd a'r
datganiadau cyn yr ymarfer casglu sicrwydd nesaf yn nhymor yr hydref, ond nid
oedd yn rhagweld unrhyw newidiadau mawr.
3.3
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch
cymharu'r fframwaith â fframweithiau sefydliadau eraill, atgoffodd Kathryn y
Pwyllgor fod adolygiad archwilio mewnol annibynnol a gynhaliwyd ddwy flynedd yn
ôl wedi ystyried gwahanol fodelau ar gyfer mapio sicrwydd a'i fod wedi dod i'r
casgliad bod y broses yn gadarn, heb fod yn rhy fiwrocrataidd, a’i fod wedi
darparu'r sicrwydd angenrheidiol ar bob lefel.
Ychwanegodd fod proses y Comisiwn wedi'i rhannu â sefydliadau eraill a
oedd wedi'i defnyddio i lywio'r broses o weithredu fframweithiau tebyg a'i bod
wedi'i henwi’n aml fel enghraifft o arfer da. 3.4
Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn ynghylch
defnydd y Fframwaith Sicrwydd a’r adolygiad parhaus er mwyn sicrhau ei fod yn
parhau i fod yn addas at y diben.
Anogodd y Cadeirydd y swyddogion i sicrhau bod sicrwydd allanol wedi
cael ei gofnodi’n briodol pan adolygwyd y fframwaith ac i edrych eto ar
ddulliau a fabwysiadwyd mewn sefydliadau eraill. 3.5
Mynegodd aelodau'r pwyllgor ddiddordeb mewn cael
gwybod am flaenraglenni gwaith y Comisiwn (a ddarperir yn y cyfarfod hwn),
Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu a’r
Bwrdd Taliadau hefyd. Camau i’w
cymryd ·
(3.5) Rhannu manylion am
flaenraglenni gwaith Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau,
Ymgysylltu a'r Gweithlu a’r Bwrdd Taliadau.
· (3.5) Dave i drefnu trafod llywodraethu’r Bwrdd Taliadau gyda Suzy. |
|
Sganio'r gorwel yn strategol er mwyn llywio blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: ARAC (04-20) Papur 4 – Y flaenraglen waith ARAC (04-20) Papur 5 – rhaglen waith ddrafft y
Comisiwn 4.1
Arweiniodd y Cadeirydd drafodaeth ynghylch dyddiadau
cyfarfodydd yn y dyfodol ac eitemau ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor. 4.2
O ran dyddiadau, cytunwyd y dylai cyfarfodydd
ddilyn y patrwm arferol, sef Tachwedd, Chwefror, Ebrill, Mehefin a Gorffennaf.
Byddai'r tîm clercio yn anfon dyddiadau’r cyfarfodydd i wirio a yw pobl ar
gael, gan osgoi gwrthdaro ag ymrwymiadau eraill a amlinellwyd gan aelodau'r
Pwyllgor. 4.3
O ran cynnwys y flaenraglen waith, nododd y
Cadeirydd nifer o eitemau y credai y dylid eu cynnwys ar ben yr eitemau
rheolaidd a amlinellwyd yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor, y nodwyd rhai ohonynt
yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Roedd y rhain yn cynnwys: diweddariad ym mis
Tachwedd ar gynllunio a chyfathrebu ynghylch Etholiadau’r Senedd 2021;
diweddariad manwl ym mis Chwefror ar reoli risgiau seiberddiogelwch;
diweddariad ym mis Tachwedd ar newid cyfansoddiadol a Brexit; diweddariadau
rheolaidd ar drafodaethau yng nghyfarfod Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar
Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu; trafod yr amgylchedd ar ôl Covid-19 ym mis Chwefror
(gan gynnwys dirywiad economaidd, a’r elfennau cymdeithasol a dynol); a
chynaliadwyedd a newid hinsawdd. 4.4
Cytunwyd hefyd y byddai diweddariadau yn cael eu
darparu i'r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â chyllideb a chyfrifon y Comisiwn
y tu allan i'r pwyllgor ar adegau priodol yn ystod y flwyddyn, er enghraifft,
cyn i'r gyllideb gael ei gosod. 4.5
Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch
cydymffurfio â'r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol oherwydd y cyfnod hir tebygol o
weithio o bell a'r diffyg opsiynau dwyieithog sydd ar gael, sicrhaodd Manon a
Dave y Pwyllgor fod hyn yn cael ei drafod o dan y cynlluniau ar gyfer dychwelyd
i'r ystâd ac y byddent yn parhau i archwilio technolegau amgen. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: 4.1
Bydd
y Cadeirydd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol ARAC i’r Comisiwn ddydd Llun 13
Gorffennaf a chafwyd trafodaeth am ba negeseuon allweddol i’w cyfleu. Byddai’n
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn nhymor yr hydref.
4.2
Hefyd,
cytunodd y Cadeirydd i drafod ymhellach trefnu cyfarfod anffurfiol yn gynnar yn
nhymor yr hydref ac y byddai’n anfon y manylion at aelodau’r Pwyllgor. Camau i’w
cymryd ·
(5.2) Bydd y Cadeirydd yn anfon manylion am
gyfarfod anffurfiol at aelodau’r Pwyllgor. Disgwylir i'r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 20 Tachwedd 2020. |