Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau is-bwyllgorau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(09.00 - 09.30)

2.

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 5

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
SFP(4)-03-13 – Papur 1

 

·         Dr Keir Lewis FRCP, Meddyg ymgynghorol ym maes Meddygaeth Anadlu

 

Cymdeithas Feddygol Prydain
SFP(4)-03-13 – Papur 2

 

·         Dr Tony Calland, Cadeirydd adran foeseg y BMA

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr.  

 

2.2 Bydd y Pwyllgor yn ceisio rhagor o dystiolaeth gan brifysgol Stirling ar yr ymchwil y mae wedi ei wneud i lefelau ysmygu ar sgrin, ei effaith ar iechyd y cyhoedd ac amlygu cynnyrch sigarennau.

 

(09.30 - 10.15)

3.

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 6

Asiantaeth Ffilm Cymru

SFP(4)-03-13 – Papur 3

 

·         Pauline Burt, Prif Weithredwr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Asiantaeth Ffilm Cymru.

 

3.2 Bydd y Pwyllgor yn cael yr adroddiad llawn gan ganolfan ymchwil economaidd gymdeithasol y DU sydd wedi ei hariannu i astudio rheoli tybacco. 

(10.15 - 10.45)

4.

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 7

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
SFP(4)-03-13 – Papur 4

·         Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol, Diogelwch Cyhoeddus & Tai Sector Preifat, Nghyngor Caerdydd

 

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

SFP(4)-03-13 – Papur 5

 

·         Julie Barratt, Cyfarwyddwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan Gyngor Caerdydd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

 

4.2 Bydd y Pwyllgor yn cael astudiaeth achos o brofiad cynhyrchu ffilmiau yng Ngogledd Iwerddon sydd yn yr adroddiad Effaith Economaidd y Diwydiant Ffilm Prydeinig.

(10.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6

Cofnodion:

5.1 Cytunwyd â’r cynnig.

(10.45 - 11.00)

6.

Y prif faterion a’r camau nesaf

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr is-bwyllgorau i glywed rhagor o dystiolaeth lafar ar ôl y Pasg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Panel y Sector Diwydiannau Creadigol a Chomisiwn Sgrin Cymru. 

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

7.1 Nodwyd bapurau.

8.

SFP(4)-03-13 - Papur 6 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan ASH Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 22 Ionawr

Dogfennau ategol:

9.

SFP(4)-03-13 - Papur 7 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Equity yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr.

Dogfennau ategol:

9a

SFP(4)-03-13 - Papurau 8 a 9 – Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr

Dogfennau ategol: