Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau’r is-bwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Menter a
Busnes i’r cyfarfod. 1.2
Darllenodd
y Cadeirydd lythyr gan y BBC yn dilyn eu sesiwn tystiolaeth lafar ar 22 Ionawr.
Roedd y llythyr yn ymddiheuro am wall yn eu tystiolaeth. 1.3
Nododd
aelodau’r is-bwyllgorau y llythyr o ymddiheuriad a’r cywiriad. |
|
(09.00 - 10.00) |
Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 3 BECTU SFP(4)-02-13 – Papur 1 · Sian Gale, Cadeirydd Cangen Gweithwyr Annibynnol De Cymru, BECTU Equity · Simon Curtis, Trefnydd Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd yr
is-bwyllgorau dystiolaeth gan BECTU ac Equity. 2.2 Cytunodd y
tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth ar sut mae’r eithriad i’r ddeddfwriaeth
mangreoedd di-fwg yn gweithio yn Lloegr. 2.3 Cytunodd
Equity i ddarparu ei ffigurau aelodaeth am y blynyddoedd diwethaf i aelodau’r
is-bwyllgorau, iddynt weld pa gyfran o’i aelodau sy’n Gymry. |
|
(10.00 - 11.00) |
Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd yr
is-bwyllgorau dystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 3.2 Cytunodd
Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwybodaeth i aelodau’r is-bwyllgorau ar y
canlynol: -
Cyfraddau
rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru a Lloegr ers 2007, fesul grŵp oed; - Ffigurau yn dangos newidiadau i lefelau ysmygu yng Nghymru a Lloegr ers cyflwyno’r gwaharddiad ysmygu. |
|
Trawsgrifiad |