Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r is-bwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Menter a Busnes i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, a oedd yn hwyr yn cyrraedd am ei fod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes.

1.3        Hefyd, cafwyd ymddiheuriadau gan gynrychiolwyr Cynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT), nad oeddent yn gallu dod i roi tystiolaeth o dan eitem 2.

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 1

BBC Cymru

SFP(4)-01-13 – Papur 1

SFP(4)-01-13 – Papur 1a

 

·         Clare Hudson - Pennaeth Cynyrchiadau BBC Cymru

 

PACT (Cynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu)
SFP(4)-01-13 – Papur 2

 

·         Sue Vertue, Hartswood Films ac aelod o PACT

 

Teledwyr Annibynnol Cymru
SFP(4)-01-13 – Papur 3

SFP(4)-01-13 – Papur 3a

 

·         Sion Clwyd Roberts, Arbenigwr Cyfryngau ac Eiddo Deallusol - Capital Law ac aelod o Gyngor TAC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr BBC Cymru a Teledwyr Annibynnol Cymru.

2.2        Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y costau ynglwm wrth y rheoliadau, gan gynnwys: cost adleoli cynhyrchiadau’r BBC i Loegr i recordio golygfeydd dramatig sy’n cynnwys actorion yn ysmygu; costau am fod cynyrchiadau yn penderfynu peidio â dod i Gymru o ganlyniad i ddiffyg eithriad yn y ddeddfwriaeth; a rhagor o fanylion am y gost o efelychu ysmygu gan ddefnyddio technoleg CGI.

 

(10.00 - 11.00)

3.

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012- Sesiwn Dystiolaeth 2

ASH Cymru
SFP(4)-01-13 – Papur 4

 

·         Felicity Waters, Rheolwr y Wasg ac Ymgyrchoedd 

 

Sefydliad Prydeinig y Galon
SFP(4)-01-13 – Papur 5

 

·         Delyth Lloyd, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu

 

Cancer Research UK
SFP(4)-01-13 – Papur 6

 

·         Dr Jean King, Cyfarwyddwr Rheoli Tybaco

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr ASH Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a Cancer Research UK.

 

3.2 Cytunodd yr is-bwyllgorau i chwilio am ragor o wybodaeth am effaith atal ysmygu ar setiau ffilm a theledu ar y diwydiannau ffilm a theledu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 

Trawsgrifiad