Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lynne Neagle ac Eluned Parrott. Roedd Aled Roberts yn
dirprwyo ar ran Eluned Parrott. |
|
Y Dull o Graffu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cytunodd y
ddau Is-bwyllgor ar y cylch gorchwyl a’r llythyr ymgynghori. 2.2 Cytunodd y ddau Is-bwyllgor ar opsiwn 2 fel yr opsiwn
amserlen o ddewis gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio opsiwn 1 - slotiau presennol
y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - ar gyfer
cyfarfodydd pellach fel y bo angen. 2.3 Cytunodd yr
Aelodau ar y rhestr o ymgynghoreion a’r rhestr o dystion i roi tystiolaeth
lafar. Cytunwyd y byddai’r gwahoddiad am dystiolaeth lafar yn cael ei roi i
gynrychiolydd o’r Byrddau Iechyd Lleol. 2.4 Nododd y
Cadeirydd mai’r nod oedd ceisio cytuno ar adroddiad ar y cyd a fyddai’n cael ei
gyfeirio’n ôl er mwyn i’r ddau riant bwyllgor gytuno arno. |
|
Trawsgrifiad |