Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau, y tystion a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriad gan Ann Jones. Roedd Lynne Neagle yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog (09:30 - 11:20) Carwyn Jones AC, Prif
Weinidog ·
Bethan Webb - Dirprwy Gyfarwyddwr, Iaith Gymraeg ·
Peter Kennedy – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am rôl Llywodraeth
Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac am y broses o ran penodiadau
cyhoeddus, a chraffu yn hyn o beth. 2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif
Weinidog yn ymwneud â’r Gymraeg. Cwestiynau gan y cyhoedd oedd y rhain a fe’u
hanfonwyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol. |
|
Rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
|
|
Y broses o ran penodiadau cyhoeddus amlwg yng Nghymru, a chraffu yn hyn o beth. Dogfennau ategol:
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Item
4 Cofnodion: 4. 1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4 ar yr
Agenda. |
|
Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn flaenorol (11:20 - 11:30) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod
y sesiwn graffu flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi
nifer o sylwadau ac argymhellion. |