Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad allanol
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd. 1.2 Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies ac Ann Jones.
Dirprwyodd Elin Jones ar ran Jocelyn Davies a dirprwyodd Joyce Watson ar ran Ann Jones. |
||
(13:30-15:15) |
Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog
Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am y goblygiadau i Gymru yn dilyn y refferendwm
dros annibyniaeth yr Alban a materion o bwysigrwydd lleol i ardal gorllewin
Cymru. 2.2 Gofynnodd y
Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog.
Roedd y cwestiynau wedi’u cyflwyno gan y cyhoedd drwy’r cyfryngau
cymdeithasol a gan ddisgyblion nifer o ysgolion uwchradd. |
|
2.1 Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Refferendwm yr Alban ar Annibyniaeth. Cofnodion: 2.1 Goblygiadau i Gymru yn dilyn y Refferendwm dros
Annibyniaeth yr Alban. |
||
2.2 Materion sy'n Berthnasol i Orllewin Cymru Cofnodion: 2.2 Materion perthnasol i orllewin Cymru |
||
Papurau i'w Nodi (15:15 - 15:20) Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ddau bapur. |
||
3.1 Papur i'w Nodi 1 CSFM(4)
02-14 (ptn 1): Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at
y Cadeirydd - Datganiad Blynyddol ar Fyrddau Cynghori a Arweinir gan y Sector
Preifat a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Dogfennau ategol: |
||
3.2 Papur i'w Nodi 2 CSFM(4)02-14
(ptn 2): Llythyr gan y Cadeirydd i'r Prif Weinidog – gwaith dilynol o'r cyfarfod
ar 26 Mehefin (Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd). Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr
Agenda. |
||
Trafod y Dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol (15:20 - 15:30) Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y
Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu yn gynharach. |