Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Iau, 26 Mehefin 2014 14.00
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Parrott.
Dirprwyodd William Powell ar ei rhan. 1.3
Nodwyd bod Jocelyn Davies wedi'i hethol yn aelod o'r Pwyllgor ers y
cyfarfod diwethaf. |
||
(14:00 - 15:45) |
Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog – Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 gan Lywodraeth Cymru CSFM(4)-01-14 Papur 1- Tystiolaeth ysgrifenedig ·
Carwyn Jones AM, Prif Weinidog ·
Rhodri Asby – Dirprwy Cyfarwyddwr Gwrthsefyll & Gweithredu Hinsawdd ·
Lucy Corfield - Pennaeth Gwrthsefyll & Gweithredu
Hinsawdd Themâu Craffu: 1.
Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynnydd hyd yma 2.
A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r
newid yn yr hinsawdd? 3.
Y sector preswyl 4.
Newid ymddygiad ac addysg 5.
Busnes/ynni adnewyddadwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn
mewn perthynas â Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru yn 2010: 1. Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynnydd hyd yma 2. A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r newid yn yr
hinsawdd? 3. Y sector preswyl 4. Newid ymddygiad ac addysg 5. Busnes/ynni adnewyddadwy 2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog, a ddaeth i
law gan sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. |
|
(15:45 - 15:50) |
Papurau i’w nodi CSFM(4)01-14 (ptn1) Perthynas gyda’r Trydydd Sector a’r
Sector Preifat. - Ymateb Llywodraeth Cymru CSFM(4)01-14 (ptn1-atodiad) Wales Social Partners Unit
Evaluation (Saesneg yn Unig) Gohebiaeth-Cadeirydd i'r Prif Weinidog (Mawrth 2014) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ohebiaeth gan y Cadeirydd
yn ymwneud â pherthynas y Llywodraeth â'r trydydd sector a'r sector preifat. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda. |
||
(15:50 - 16:00) |
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn
ystod y sesiwn graffu flaenorol. |