Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Phipps
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin
Jones. Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Mark Drakeford. |
|
Trafod llythyr drafft - Cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2013 Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau ar eiriad y llythyr, yn amodol ar newid yn y paragraff olaf ond un. |
|
Trafod papur drafft - Gweithgaredd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol - opsiynau ar gyfer tymor yr haf 2013 Cofnodion: Cytunodd yr Aelod
i gynnal y cyfarfod nesaf yng Ngogledd Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn ystod
tymor yr haf. Cytunwyd y byddai'r tîm
clercio yn cysylltu â'r Prif Weinidog i bennu dyddiad a lleoliad addas ar gyfer
y cyfarfod. Cytunodd yr Aelodau mai
darpariaeth prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys ynni, ddylai fod pwnc y
cyfarfod nesaf. Cytunwyd y dylid canolbwyntio'n arbennig ar enghreifftiau yng
Ngogledd Cymru, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffyrdd, gwelliannau i'r A55,
ynni niwclear ac adnewyddadwy, gwella'r grid a dinas-ranbarthau. Awgrymodd yr Aelodau y
gallai'r ymweliad â Gogledd Cymru hefyd gynnwys digwyddiad y noson cyn y
cyfarfod. Awgrymodd yr Aelodau hefyd y
dylid cynnal digwyddiad ymgysylltu fel sesiwn meic agored. Efallai y gellid gwahodd y Prif Weinidog i
gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn hoffi arddull y papur briffio a ddarparwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol, a byddent yn hoffi gweld rhywbeth tebyg ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. |