Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Adeilad y Ffermwyr Ifanc, Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cyswllt: Naomi Stocks
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau Cynulliad, y tystion a’r cyhoedd i’r cyfarfod yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. 1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd dirprwyon yn bresennol. 1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru am ganiatáu i’r cyfarfod gael ei gynnal yn ei adeilad. |
||
(10:30-11:30) |
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru CAP(4)-04-11 Papur 1: Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru Ed Bailey, Llywydd Mary James, Cyfarwyddwr Dylan Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr CAP(4)-04-11 Papur 2: Undeb Amaethwyr Cymru Emyr Jones, Llywydd Nick Fenwick, Cyfarwyddwr Polisi Amaethyddol Rhian Nowell-Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. |
|
(11:30-12:30) |
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru CAP(4)-04-11 Papur 3: Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Sue Evans, Cyfarwyddwr Polisi CAP(4)-04-11 Papur 4: Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru Dylan Jones, Cadeirydd Marc Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwledig Kay Lewis, Swyddog Datblygu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru. |
|
(12:30-13:00) |
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: sesiwn hawl i holi i aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar y cynigion ar gyfer y PAC Cofnodion: 4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ‘hawl i holi’, gan roi cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau a lleisio’u barn ar y cynigion ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin. 4.2 Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil i baratoi nodyn byr mewn ymateb i gwestiwn gan Roger Davies ar godi treth ar dir preifat. 4.3 Gofynnodd William Powell am bapur briffio ar y cynlluniau agri-amgylcheddol gwahanol ledled 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth ychwanegol gan Gymdeithas y Pridd Papur 1: Gwerthusiad o ‘Food for Life’ Papur 2: Trosolwg o’r adroddiad ar garbon mewn pridd Papur 3: Ymateb
gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynghylch y rheoliad llorweddol ar gyllido,
rheoli a monitro’r PAC Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5a.1 Nododd y grŵp yr ohebiaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog a Chymdeithas y Pridd. |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |